Common use of Cyflwyniad Clause in Contracts

Cyflwyniad. 1.1 Pwrpas a Chynnwys y Cyfansoddiad 1.1.1 Mae'r Cyfansoddiad yn disgrifio'r amrywiol gyrff sy'n rhan o'r Cyngor, eu swyddogaethau, Aelodaeth a rheolau gweithdrefnol. 1.1.2 Yn Adran 3 (Cael Gwybodaeth a Chymryd Rhan) rydym wedi darparu gwybodaeth i aelodau'r cyhoedd a Chynghorwyr ar sut y gallwch gael gwybodaeth am y Cyngor, a sut y gallwch gymryd rhan. Gobeithiwn y bydd hyn yn helpu pobl sydd â diddordeb yng ngwaith y Cyngor, neu fater penodol y mae’n ymdrin ag ef, i ddeall ble ▇▇▇ ▇▇▇▇ cael rhagor o wybodaeth, a sut y gallan nhw gyfrannu at weithgareddau’r Cyngor. 1.1.3 Gallwch gael gwell dealltwriaeth o’r hyn y mae pob un o gyrff y Cyngor yn ei wneud yn Adrannau 4 i 10 y Cyfansoddiad hwn, gan gynnwys y Cyngor Llawn, y Cabinet, Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, Pwyllgorau Safonau a Phwyllgorau Rheoleiddio. ▇▇▇ ▇▇▇▇▇ 12 yn rhoi gwybodaeth am strwythurau rheoli a Swyddogion y Cyngor. ▇▇▇ ▇▇▇ rai Swyddogion ddyletswydd benodol i sicrhau bod y Cyngor yn gweithredu o fewn y gyfraith ac yn defnyddio adnoddau'n ddoeth. Mae cyfrifoldeb am swyddogaethau yn Adran 14 yn dweud pa gyrff y Cyngor, a pha Swyddogion, sydd ag awdurdod i wneud pa benderfyniadau. 1.1.4 Mae'r rheolau gweithdrefnol sy'n berthnasol i wahanol gyrff y Cyngor wedi'u cynnwys yn yr adrannau sy'n ymwneud â'r cyrff hynny, ee Cyngor Llawn (Adran 4), y Cabinet (Adran 5) a Throsolwg a Chraffu (Adran 7). Efallai y bydd y rhain yn ddefnyddiol i chi os ydych am fynychu cyfarfod, yn enwedig os ydych am allu gofyn cwestiynau, trafod mater, neu fynegi ▇▇▇▇ safbwynt. 1.1.5 Mae Adrannau 19 i 21 yn cynnwys y Codau Ymddygiad a'r Protocolau y mae’r Swyddogion a’r Aelodau wedi cytuno i gydymffurfio â nhw. Maen nhw’n nodi’r safonau o ran ymddygiad. 1.1.6 Mae'r tudalennau Cynnwys ar ddechrau'r Cyfansoddiad hwn yn rhoi arweiniad ar yr hyn sydd yn y Cyfansoddiad a ble y gallwch ddod o hyd iddo. 1.2 Sut mae'r Cyngor yn Gweithredu 1.2.1 Mae i’r Cyngor 51 o gynghorwyr sy’n cael eu hethol ▇▇▇ ▇▇▇ mlynedd. Mae pob Cynghorydd yn atebol yn ddemocrataidd i drigolion ei adran etholiadol yn ogystal â phawb sy'n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Dyletswydd gyntaf y cynghorwyr yw’r gymuned gyfan, ond mae arnynt ddyletswydd arbennig tuag at eu hetholwyr, gan gynnwys y rhai sydd heb bleidleisio drostynt. 1.2.2 Mae pob Cynghorydd wedi cytuno i ddilyn Cod Ymddygiad, er mwyn sicrhau safonau uchel yn y modd y maent yn cyflawni eu dyletswyddau. Mae'r Pwyllgor Safonau yn gyfrifol am hyfforddi a chynghori ar y Cod Ymddygiad. 1.2.3 Mae'r ▇▇▇▇ Gynghorwyr yn cyfarfod gyda’i gilydd yn rheolaidd fel y Cyngor. Mae cyfarfodydd y Cyngor fel arfer yn agored i'r cyhoedd. Yma mae Cynghorwyr yn penderfynu ar Fframwaith Polisi cyffredinol y Cyngor ac yn gosod y Gyllideb ▇▇▇ blwyddyn. Mae'r Cyngor yn penodi Arweinydd y Cyngor yn y cyfarfod blynyddol. Yna mae’r Arweinydd yn penderfynu ar faint ac Aelodaeth y Cabinet, hy rôl Aelodau unigol o’r Cabinet a threfniadau ar gyfer ymarfer a dirprwyo Swyddogaethau Gweithrediaeth. Penodir y Cabinet i gyflawni ▇▇▇▇ swyddogaethau’r Cyngor nad ydynt yn gyfrifoldeb unrhyw ran arall o’r Cyngor, boed yn ôl y Gyfraith neu o ▇▇▇ y Cyfansoddiad hwn, ynghyd â gwneud penderfyniadau o fewn y Gyllideb a’r Fframwaith Polisi a osodwyd gan y Cyngor. Os oes angen rhagor o help arnoch, mae croeso i chi gysylltu â ni yn: ▇▇▇▇▇▇▇▇@▇▇▇▇▇▇▇▇.▇▇▇.▇▇ Er bod y Cyfansoddiad yn hir iawn, gobeithiwn y bydd yn hawdd i chi ei ddefnyddio. Rydym wedi treulio llawer o amser yn ceisio ei wneud mor hawdd i'w ddilyn â phosibl gyda dogfen gyfreithiol mor hir a chymhleth. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi ddarllen y Cyfansoddiad hwn ar y cyd â’r Canllaw i’r Cyfansoddiad, sydd ar gael ar wefan y Cyngor.

Appears in 2 contracts

Sources: Constitution, Constitution