Disgrifiad Swydd
Disgrifiad Swydd
Swydd: Rheolwr Cenedlaethol (FCN Cymru)
Lleoliad: Gweithio gartref gyda’r gallu i deithio a gweithio’n hyblyg* Oriau: Amser llawn (35 awr yr wythnos) (angen bod yn hyblyg) Contract: Contract cyfnod penodol am flwyddyn (adnewyddadwy) Yn atebol i’r: Prif Weithredwr
Dyddiad Paratoi: Tachwedd 2022
Elusen genedlaethol a mudiad gwirfoddol sy’n gweithredu ledled Cymru a Lloegr yw FCN. Ei nod yw helpu i wella iechyd a llesiant ffermwyr adarparu cymorth ymarferol a bugeiliol i’r rheini sy’n wynebu anawsterau ar y fferm neu yn y cartref. Mae FCN yn gobeithio datblygu ei bresenoldeb a’i wasanaethau yng Nghymru a Lloegr drwy ymateb i’r ansicrwydd cynyddol sy’n bodoli yn y sector ffermio.
Rydym yn recriwtio Rheolwr Cenedlaethol yng Nghymru i fod gyfrifol am reoli a datblygu FCN Cymru, ac yn atebol i’r Prif Weithredwr. Byddwch yn rhan o uwch dîm rheoli FCN, gan arwain partneriaethau, gweithgareddau xxxx xxxxx a’r gwaith o ddatblygu rhaglenni yng Nghymru. Bydd hyn yn golygu datblygu partneriaethau gyda sefydliadau, cefnogi staff a gwirfoddolwyr FCN, dylunio prosiectau newydd a sicrhau cyllid gan amryw o ffynonellau.
Bydd gennych chi hefyd gyfrifoldebau Arwain a Chefnogi Rhanbarthol, gan helpu i adeiladu, cefnogi a sefydlu grwpiau gwirfoddol FCN lleol, cynaliadwy ac iach.
Bydd xxxx rôl yn cynnwys cefnogi grwpiau gwirfoddol FCN a Swyddogion Cymorth Rhanbarthol, yn ogystal â darparu arfer gorau y gellir ei rannu’n ehangach â staff FCN ac Arweinwyr Rhanbarthol eraill.
Dyma amser cyffrous i ymuno â FCN – rydym yn y broses o roi ein strategaeth bum mlynedd ar waith, sef ‘Fit for a New Farming Future’ (2020-2025), ac rydym yn gweithio gydag amrywiaeth xxxx o randdeiliaid i greu dyfodol ffermio cadarn i’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr.
Byddwch yn gweithio ar xxxx liwt xxxx hun rhan fwyaf o’r amser, a bydd angen trwydded yrru ddilys a glân arnoch yn ogystal â cherbyd at xxxx defnydd. Bydd treuliau milltiroedd yn cael eu had-dalu.
Byddwch yn cydymdeimlo â chenhadaeth ac ethos FCN, sy’n seiliedig ar egwyddorion Cristnogol.
Prif Dasgau:
• Parhau i ddatblygu partneriaethau gyda’r llywodraeth, sefydliadau eraill, corfforaethau a’r sectorau cymunedol a gwirfoddol, gan adeiladu ar gysylltiadau sy’n bodoli eisoes a chreu rhai newydd.
• Sbarduno a meithrin perthynas gyda’n cefnogwyr a’n sefydliadau partner.
• Datblygu cysylltiadau â rhanddeiliaid allweddol ledled Cymru.
• Cefnogi gweithgareddau allgymorth a gweithgareddau xxxx xxxxx gwirfoddolwyr FCN a rhanddeiliaid eraill, ochr yn ochr â’n Swyddogion Cymorth Rhanbarthol.
Prif gyfrifoldebau:
Arwain a Rheoli
• Cyfrannu at ddatblygu strategaeth ar gyfer FCN Cymru gan weithio'n agos gyda'r Prif Weithredwr ac aelodau eraill o’r uwch staff reoli.
• Canfod anghenion ffermwyr, teuluoedd fferm a chefnogi’r gymuned ffermio ledled y wlad; a chanfod cyfleoedd ar gyfer FCN.
• Arwain, goruchwylio a chyfrannu at ddatblygiad hyfforddiant a FarmWell Cymru, gan weithio ochr yn ochr â’r Pennaeth Cyfathrebu a Datblygu.
• Xxxxxx a gweithio’n agos gyda staff a gwirfoddolwyr FCN yng Nghymru i fod yn rhagweithiol ac arloesol, yn ogystal â chefnogi’r ffermwyr sy’n gofyn am gymorth.
• Cefnogi staff a rhoi anogaeth i unigolion a grwpiau gwirfoddol.
• Cynrychioli FCN yng nghyfarfodydd y llywodraeth yn ogystal â chyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys undebau a busnesau ledled Cymru.
• Xxxxxx drwy esiampl a chymell eraill.
• Chwilio am gyfleoedd cysylltiadau cyhoeddus yng Nghymru, ac arwain y gwaith mewn cydweithrediad a thrwy gytundeb â’r Pennaeth Cyfathrebu a Datblygu.
Partneriaethau a Chodi Arian
• Parhau i ddatblygu partneriaethau yng Nghymru xx xxxx y gymuned ffermio rydym yn ei gwasanaethu, yn ogystal â meithrin a datblygu cysylltiadau gyda chefnogwyr a phartneriaid elusennol cyfredol.
• Cymryd cyfrifoldeb dros y gwaith cyllido a chyllidebu er mwyn sicrhau incwm a gwariant priodol yng Nghymru.
• Sicrhau bod mentrau o fewn partneriaethau elusennol – gan gynnwys cyfranogiad staff, codi ymwybyddiaeth, hyfforddiant a sgyrsiau, a chynlluniau xxxx xxxxx – yn cael eu cefnogi a’u cydnabod.
• Datblygu cysylltiadau gyda sefydliadau – unigolion preifat, grwpiau a busnesau corfforaethol yn ogystal â’r llywodraeth.
• Gweithio ar y cyd â’r xxx rheoli i ddatblygu prosiectau newydd a chanfod cyfleoedd.
• Rhoi cyhoeddusrwydd i gefnogwyr xxxx xxxxx a mentrau partner ochr yn ochr â datblygu syniadau a deunyddiau hyrwyddo/xxxx xxxxx, mewn cydweithrediad â thîm rheoli FCN.
• Sicrhau bod amcanion, cyllidebau a therfynau amser prosiectau yn cael eu cyflawni, a hynny drwy gadw cofnodion, cyfathrebu â’r xxx rheoli a darparu adroddiadau angenrheidiol yn barhaus.
• Sicrhau bod FCN yn parhau i gydymffurfio ag unrhyw ddeddfwriaeth a safonau xxxx xxxxx.
Xxxxxxx Xxxxxxxxxxx
Fel rhan o’ch cyfrifoldebau fel Swyddog Cymorth Rhanbarthol, byddwch yn cefnogi, yn ysgogi ac yn ysbrydoli cydweithwyr a grwpiau gwirfoddolwyr yng Nghymru ac yn helpu i ddatblygu enw da FCN ar draws yr ardal. Byddwch yn gweithio gyda gwirfoddolwyr lleol i gysylltu â ffermwyr a gweithwyr fferm a’u teuluoedd mewn marchnadoedd, sioeau ac achlysuron eraill fel y bo’n briodol. Bydd hyn yn cynnwys:
• Gweithio gyda staff a Chydlynwyr Gwirfoddolwyr i hwyluso datblygiad grwpiau sirol i sicrhau capasiti priodol ar draws eu rhanbarth.
• Gweithio’n agos gyda Swyddogion Cymorth Rhanbarthol a Chydlynwyr Gwirfoddolwyr i reoli achosion.
• Datblygu ymwybyddiaeth a chydnabyddiaeth pobl o FCN yn xxxx rhanbarth a chreu cysylltiadau a chyfleoedd xxxx xxxxx gyda mudiadau rhanbarthol a chefnogwyr FCN, gan weithio’n agos gyda’r Uwch Reolwr Partneriaethau a’r Pennaeth Cyfathrebu a Datblygu.
• Cynrychioli FCN ar grwpiau rhanddeiliaid a grwpiau eraill yn y diwydiant yn ôl yr angen.
• Cefnogi’r Pennaeth Gwasanaethau i wella prosesau cofnodi mewnol, i gasglu tystiolaeth o weithgarwch FCN, ac i ddatblygu systemau newydd i gefnogi ein gwaith.
• Canfod a helpu’r swyddfa genedlaethol i gael gafael ar ffynonellau cyllid rhanbarthol a lleol.
Ar ôl sefydlu ei hun yn y swydd, bydd y Rheolwr Cenedlaethol yn ymgymryd â’r rôl o fod yn rheolwr llinell ar y Swyddogion Cymorth Rhanbarthol yng Nghymru.
Manyleb swydd – Rheolwr Cenedlaethol FCN Cymru:
Meini prawf “angenrheidiol”:
• Gallu dangos a darparu arweiniad i staff, gwirfoddolwyr a sefydliadau partner pan fo angen.
• Xxx xxxx profiad a gwybodaeth o ddeddfwriaeth a safonau xxxx xxxxx cyfredol yn hanfodol.
• Gwybodaeth gadarn am egwyddorion ac arferion xxxx xxxxx yn xx xxxx ffurfiau.
• Trwydded yrru lawn a glân a cherbyd at xxxx defnydd.
• Gallu cynllunio a rheoli ymgyrchoedd yn effeithiol yn unol â therfynau amser.
• Unigolyn hyderus, dymunol sy’n gallu hyrwyddo FCN ac addasu i ddiwylliant yr elusen.
• Sgiliau cyfathrebu rhagorol wyneb yn wyneb ac ar-lein.
• Gallu defnyddio rhaglenni MS Office gan gynnwys Word, Excel a PowerPoint a meddalwedd CRM.
• Sgiliau rheoli prosiect rhagorol a gallu gweithio o fewn terfynau amser.
• Aelod da o dîm, llawn cymhelliant ac yn gallu gweithio’n annibynnol am gyfnodau hir.
• Gallu gweithio gartref a gweithio mewn ffordd hyblyg a symudol.
• Sgiliau rhyngbersonol rhagorol a’r gallu i gydweithio â gwirfoddolwyr, staff a sefydliadau allanol.
• Sgiliau cyfathrebu effeithiol ar xxxxx xx ar bapur.
• Gallu meddwl yn greadigol.
• Mae gwybodaeth am ffermio a materion gwledig yn fantais.
• Profiad o weithio’n effeithiol mewn timau bach a thrwy ddefnyddio adnoddau ar-xxxx, xx enghraifft Zoom.
Cymwysterau dymunol:
• Sgiliau Cymraeg
• Wedi xxxx lleoli yng nghanolbarth Cymru
• Cefndir yn y byd amaeth neu fusnesau cysylltiedig – gallu trafod materion sy’n ymwneud â ffermio yn wybodus.
• Profiad o ysgrifennu ceisiadau llwyddiannus at gronfeydd ymddiriedolaeth.
• Profiad o weithio’n effeithiol mewn timau bach a thrwy ddefnyddio adnoddau ar -xxxx, xx enghraifft Zoom.
• Wedi gweithio yn y sector elusennol yn y gorffennol.
• Gradd prifysgol mewn pwnc cysylltiedig.
Y cyflog ar gyfer y swydd hon yw £38,000 pro rata.
*Efallai y bydd achlysuron pan fydd angen mynychu digwyddiadau gyda’r nos neu ar benwythnosau. Yn yr achosion hyn, cynigir amser i ffwrdd o bosib ond caiff hynny ei ystyried fesul achos.