Cwestiynau Ysgrifenedig a atebwyd rhwng 12 a 19 Hydref 2006
Cwestiynau Ysgrifenedig a atebwyd rhwng 12 a 19 Hydref 2006
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Xxxxxx, Arloesi a Rhwydweithiau
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon
Xxxxx Xxxx Xxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyllid sydd ar gael i ddynion a merched sy’n cynrychioli Cymru mewn digwyddiadau chwaraeon dramor? (WAQ48087)
Y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon (Xxxx Xxxx): Fe’ch cyfeiriaf at yr ateb ysgrifenedig a roddais ichi ar 25 Medi 2006 a’r ateb a roddodd y Prif Weinidog ichi yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Hydref 2006.
Xxxxxxx Xxxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw drafodaethau y mae wedi’u cael ynghylch Deddf Iaith Gymraeg newydd? (WAQ48088)
Xxxx Xxxx: Xxx Llywodraeth Cynulliad Cymru yn fodlon bod y ddeddfwriaeth gyfredol yn ddigon cryf yn ei ffurf bresennol i ymateb i’r sialensiau sy’n wynebu’r iaith Gymraeg.
Mae’r Cynulliad, er enghraifft, eisoes wedi dod â phob cwmni dwr sy’n gweithredu yng Nghymru o fewn cwmpas Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac yr wyf wrthi ar hyn x xxxx yn ystyried cynigion i ddod ag amryw o gyrff pellach o fewn cwmpas y Ddeddf.
Yr ydym am gynyddu’r cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob cyd-destun, ar draws pob sector ac yr ydym yn hyderus bod Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 fel y mae yn ddigon cryf i ymateb i’r sialensiau sy’n wynebu’r iaith.
Fel y dywedais yn ystod y drafodaeth am adroddiad blynyddol ‘Iaith Pawb’, byddwn yn adolygu’r strategaeth y flwyddyn nesaf. Fel rhan o’r adolygiad hwn, mae’n naturiol y byddwn yn achub ar y cyfle i edrych ar y cyd-destun deddfwriaethol.
Xxx Xxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Fforwm Ymwybyddiaeth o Weithgareddau Awyr Agored Cymru? (WAQ48095)
Xxxx Xxxx: Sefydlwyd Fforwm Ymwybyddiaeth o Weithgareddau Awyr Agored Cymru ym mis Mawrth 2002 i hyrwyddo mesurau i wella diogelwch ar y mynyddoedd yng Nghymru.
Un datblygiad newydd mawr oedd darparu rhagolygon y tywydd ar-lein yn ddyddiol ar gyfer Eryri a Bannau Brycheiniog. Cafodd y gwasanaeth hwn ei sefydlu ym mis Hydref 2003, wedi’i gyllido gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac mae wedi bod yn eithriadol o boblogaidd. Mae’r wefan wedi cael dros 1.25 miliwn o ‘drawiadau’ (bron i 36,000 y mis ar gyfartaledd).
Cytunwyd mewn cyfarfod rhwng fy swyddogion i ac aelodau’r fforwm ar 23 Mawrth 2004 fod cylch gwaith gwreiddiol y grwp wedi cael ei gyflawni ac y gallai sefyll i xxxx fel y’i sefydlwyd yn wreiddiol. Fodd bynnag, cytunwyd hefyd y gallai fod achlysuron pan ddylid ailgynnull y fforwm ac yr wyf yn ddigon bodlon i hyn ddigwydd, pe bai’r angen yn codi.
Xxx Xxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu cyfleusterau nofio yn y Gogledd? (WAQ48096)
Xxxx Xxxx: Xxx 34 o byllau nofio cyhoeddus yn y Gogledd. Ychwanegir at y ddarpariaeth xxx xxx y pwll newydd 25m sy’n cael ei ddatblygu yn Llandudno, a fydd hefyd yn gallu cynnal cystadlaethau rhanbarthol. Mae’r cyfleuster yn cael cymorth dyfarniad cyfalaf o £1.5 miliwn gan SportLot.
Xxxxxxx Xxxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg xx xxxx chwaraeon a gweithgareddau? (WAQ48097)
Xxxx Xxxx: Xxx Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i brif-ffrydio’r Gymraeg mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae hynny’n amlwg yn bwysig er mwyn gwireddu amcanion ‘Dringo’n Uwch’ ac ‘Iaith Pawb’.
Mae buddsoddiad £3.9 miliwn Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y cynllun hyfforddi i Gymru yn gweithio i gynnal a chynyddu’r nifer o arweinwyr a hyfforddwyr Cymraeg eu hiaith yng Nghymru. Mae swyddog datblygu’r Gymraeg, sy’n cael ei gyflogi ar y xxx xxx Gyngor Chwaraeon Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg, yn helpu yn y broses hon drwy roi cyngor a chynorthwyo cyrff llywodraethu cenedlaethol chwaraeon yng Nghymru i ddatblygu eu cyrsiau a’u deunyddiau addysgu hyfforddwyr.
Xxxxx Xxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu pêl-droed yng Nghymru? (WAQ48098)
Xxxx Xxxx: Xxx Llywodraeth Cynulliad Cymru yn dal i ddarparu cymorth ariannol sylweddol i Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru drwy Gyngor Chwaraeon Cymru i ddatblygu pêl- droed yng Nghymru. Mae’r pwyslais ar gynyddu cyfranogiad ieuenctid, hyfforddi gwirfoddolwyr a hyfforddwyr a chanfod chwaraewyr iau dawnus.
Xxx xxx Ymddiriedolaeth y Gymdeithas Bêl-droed strategaeth xxxxxx blynedd, yn xxxx x xxxxx ‘Building Success and Planning for the Future (2006-2010)’, sy’n amlinellu strwythur clir er mwyn datblygu’r gêm i’r dyfodol. Dywed fod dros 38,000 o fechgyn cofrestredig yn chwarae pêl-droed yng Nghymru a bron i 4,000 o fenywod a merched cofrestredig, sy’n dangos bod cynnydd da’n cael ei wneud o ran cynyddu cyfranogiad.
O ran perfformiadau elit, mae 32 o fechgyn o’r sgwadiau datblygu cenedlaethol wedi ennill ysgoloriaethau mewn clybiau proffesiynol ac mae 31 o ferched wedi symud ymlaen i sgwad genedlaethol xxx 19 y Gymdeithas Bêl-droed. Y llynedd, yr oedd y xxx bechgyn cenedlaethol xxx 16 yn gyd-enillwyr (gyda Lloegr) cystadleuaeth Victory Shield, llwyddiant o’r radd flaenaf.
Xxxxx Xxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i wyliau cerdd yng Nghymru? (WAQ48099)
Xxxx Xxxx: Yn 2006 yr ydym wedi cefnogi ystod xxxx o ddigwyddiadau cerdd yn uniongyrchol, megis Gwyl y Faenol, yr Anthem Fawr, Gwyl Jazz Aberhonddu a Gwyl Elvis Porthcawl. Cafodd ystod xxxx o wyliau a digwyddiadau gefnogaeth gennym hefyd drwy gyngor y celfyddydau.
Xxxxxxx Xxxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl Llywodraeth Cynulliad Cymru o ran gwarchod treftadaeth ffilm Cymru? (WAQ48100)
Xxxx Xxxx: Sefydlwyd Archif Genedlaethol Sgrin a Xxxx Cymru yn 2001 fel xxxxxx ar y xxx rhwng Sgrîn Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ers i Sgrîn Cymru xxx xx mis Mawrth 2006, mae’r archif genedlaethol yn eiddo’n llwyr i’r llyfrgell genedlaethol ac yn cael ei rhedeg ganddi. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn darparu £11.656 miliwn o gymorth grant i’r llyfrgell genedlaethol yn 2006-07, yn cynnwys cymorth i’r archif genedlaethol.
Nod yr archif genedlaethol yw cadw a dathlu treftadaeth xxxx a delweddau symudol Cymru. Xxx xxx yr archif gasgliad ffilm sy’n tyfu. Ar hyn o xxxx xxx’n cynnwys tua 3.5 miliwn o droedfeddi o ffilm, mewn llawer o feintiau, yn cwmpasu genres o ffilmiau a ryddhawyd ar gyfer y sinema hyd at ddeunydd amatur yn ymwneud â bywyd xxx dydd. Xxx’r archif yn gweithredu system o gadwraeth oddefol, sy’n ceisio arafu, xxx xxxx, ei chasgliadau rhag dirywio, ac ar yr un pryd yn rhoi dulliau cadw rhagweithiol ar waith ar y ffilmiau pwysicaf neu’r rhai sydd mewn mwyaf o berygl.
Mae’r archif genedlaethol yn cyflogi archifydd ffilm profiadol i ddatblygu’r casgliad ffilm, ac i geisio sicrhau bod ffilmiau pwysig a ganfyddir yn cael eu trosglwyddo i’r archif yn Aberystwyth. Nid yw ffilmiau a deunydd clyweled yn cael eu cwmpasu gan ddeddfwriaeth adneuo cyfreithiol. Ymdrinnir â hwy drwy drefniadau adneuo gwirfoddol rhwng Sefydliad Ffilm Prydain a gwahanol wneuthurwyr a dosbarthwyr ffilmiau. Mae dod o hyd i ddeunydd ffilm o Gymru cyn iddo ddirywio, fel bod modd ei gadw mewn cyflwr perffaith, yn gallu bod yn broblem.
Mae swyddog a chynorthwyydd cadwraeth yn gweithio ar y dasg o gadw’r casgliad ffilm. Maent yn elwa o sefydlu cyfleuster technegol newydd gan yr archif genedlaethol dros y ddwy flynedd ddiwethaf—cyfleuster sydd ag amrywiaeth xxxx o gyfleusterau trafod a storio ffilm.
Yn ogystal â chadw’r casgliad, mae gwaith xxxxx yn xxxx xx wneud ar o leiaf un eitem bwysig xxx blwyddyn. Yn ddiweddar, mae partneriaeth ragweithiol wedi datblygu rhwng cwmni teledu o Gymru a’r archif genedlaethol i xxxxx ac ail-lunio ffilm siarad gyntaf y Gymraeg, ‘Y Chwarelwr’. Mae’r cynnyrch terfynol yn ffrwyth prosiect xxxxx trylwyr dros ddwy flynedd gan yr archif genedlaethol, wedi’i gyllido’n rhannol gan y cwmni teledu.
Mae Cyngor Ffilm y DU a Sefydliad Ffilm Prydain yn gwneud arolwg o waith archifo ffilm ar draws y DU ar hyn o bryd, ac maent wedi drafftio argymhellion ar gyfer archifau rhanbarthol Lloegr. Gan fod yr arolwg wedi’i fwriadu i fod yn un i’r DU gyfan, disgwylir y byddant yn cysylltu ag Archif Genedlaethol Sgrin a Xxxx Cymru am ei mewnbwn hi.
Xxxxxxx Xxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bêl-droed menywod yng Nghymru. (WAQ48101)
Xxxx Xxxx: Xxx pêl-droed menywod a merched yn un o’r xxxxxx xx’n tyfu gyflymaf yng Nghymru. Mae Cyngor Chwaraeon Cymru yn dal i weithio’n agos gydag Ymddiriedolaeth Pêl-droed Cymru i ddatblygu rhagor o gyfleoedd i fenywod a merched er mwyn cynyddu cyfranogiad a gwella lefelau sgiliau.
Dywedodd yr ymddiriedolaeth fod bron i 4000 o fenywod a merched cofrestredig yn chwarae pêl- droed yng Nghymru. Hefyd, xxx xxxx 250 o dimau pêl-droed menywod a merched wedi’u cofrestru yng Nghymru. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn gwneud cyfraniad ariannol sylweddol i gefnogi’r datblygiadau.
Bydd gennych ddiddordeb i wybod bod Cynghrair Iau Ieuenctid Casnewydd a’r Cylch wedi dechrau ar y broses o sefydlu adran newydd i ferched yn ei gynghrair, y mae’n bwriadu ei lansio yn gynnar yn 2007.
Un o amcanion tymor hir fy strategaeth i chwaraeon a gweithgarwch corfforol, ‘Dringo’n Uwch’, yw helpu ein xxx pêl-droed merched cenedlaethol i ddod yn un o’r 24 xxx gorau yn y byd erbyn 2023.
Xxxx Xxxxxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaethpwyd o ran datblygu’r farchnad ar gyfer celfyddyd gain yng Nghymru? (WAQ48102)
Xxxx Xxxx: Yr ydym yn datblygu marchnad i gelfyddyd gain yng Nghymru drwy ein rhwydwaith rhagorol o orielau a thrwy gynlluniau fel Cynllun Casglu’r Principality. Mae ein buddsoddiad mewn canolfannau newydd, fel y Riverfront yng Nghasnewydd, yn cynnig cyfleoedd rhagorol i artistiaid i ddatblygu ac arddangos eu gwaith. Mae Cynllun Casglu’r Principality, a ddathlodd bum mlynedd ar hugain yn 2005, wedi gweld y nifer o orielau sy’n cymryd rhan yn tyfu o 61 yn 2000 i 79 ar hyn x xxxx. Xxx hyn yn adlewyrchu’r twf o ran gweithgarwch yn y sector yng Nghymru, ac mae’n cynnwys Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd, ac Oriel GPF yn Xxxxxx Street, Casnewydd.
Yr ydym hefyd yn datblygu cydnabyddiaeth i’n hartistiaid yn rhyngwladol drwy ddigwyddiadau fel Artes Mundi a phafiliwn Cymru yn Biennale Fenis.
Mae presenoldeb Cymru yn Biennale Celfyddyd Fenis wedi creu diddordeb mewn celfyddyd gyfoes o Gymru ar lefel ryngwladol prynu celf. Hefyd, mae arddangosfa Gwobr Artes Mundi yn xxxx mwy a mwy o gasglwyr celfyddyd gyfoes i Gymru ac yn cynyddu’r diddordeb yn y gwaith celf sydd ar gael yma.
Xxxx Xxxx Xxxxxx: Xx xxxxx y xxx’r Gweinidog wedi’u cymryd i asesu’r effaith y xxx xxxx Canolfan y Mileniwm wedi’i chael ar adnoddau theatrig eraill yng Nghanol De Cymru? (WAQ48103) [W]
Xxxx Xxxx: Cafwyd cynnydd yng nghyfanswm maint cynulleidfaoedd ar gyfer perfformiadau byw yng Nghaerdydd. Mae’n ymddangos bod sefydlu Canolfan Mileniwm Cymru wedi annog lleoliadau eraill yn arbennig yng Nghaerdydd i godi ansawdd eu rhaglenni ac i farchnata eu cynnyrch yn well. Mae hyn wedi arwain at gynnydd yn nifer ac amrywiaeth digwyddiadau a chyfranogiad ystod ehangach o gwmnïau perfformio. Mae effeithiau’r newidiadau wedi bod yn gadarnhaol trwy
gynyddu’n sylweddol y nifer a’r mathau o berfformiadau a digwyddiadau sydd ar gael i bobl Caerdydd ac ymhellach i ffwrdd.
Xxxx Xxxx Xxxxxx: Xxxx xxx’r Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi celf gyhoeddus? (WAQ48104) [W]
Xxxx Xxxx: Yn sgil uno Cywaith Cymru/Artworks Wales a CBAT—yr Asiantaeth Gelf ac Adfywio, xxx xxx Gymru erbyn hyn yr asiantaeth gelf gyhoeddus fwyaf yn y DU. Xxx xxx y ddau sefydliad xxxxx hir o ddatblygu a chomisiynu prosiectau ardderchog yn y xxxx cyhoeddus ac maent wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr at gelf yng Nghymru ac yn rhyngwladol, at yr economi ddiwylliannol ac at ansawdd ffisegol tirluniau trefol a gwledig. Ar hyn x xxxx maent yn gyfrifol am nifer o raglenni mwy, gan gynnwys contract gwerth £1.5 miliwn gyda Phartneriaeth Dewi Sant 2 yng Nghaerdydd a nifer o brosiectau sydd wedi’u hintegreiddio â xxxx cyhoeddus Canol Dinas Belfast, mewn partneriaeth â chwmni ymgynghori pensaernïaeth a’r amgylchedd, EDAW.
Mae creu un asiantaeth gelf gyhoeddus yn gam cadarnhaol ymlaen ar gyfer celf yng Nghymru a gobeithio y bydd celf yn dod yn ystyriaeth annatod wrth adfywio ein hamgylchedd trefol a’n cymunedau. Yr wyf yn xxxxx iawn bod Wiard Xxxxx, cyfarwyddwr presennol CBAT, wedi’i benodi’n gyfarwyddwr gweithredol cyntaf yr asiantaeth newydd. Mae Xx Xxxxx wedi gweithio i CBAT ers dros 12 mlynedd ac yn gyfarwyddwr arni ers Ebrill 2003. Bu’n gyfrifol am ei datblygu’n un o gyrff celfyddydau arweiniol y DU yn xx xxxx, gydag enw rhyngwladol o fri.
Xxxxx Xxxxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i gefnogi pêl-droed yn y Gogledd-ddwyrain? (WAQ48105)
Xxxx Xxxx: Er 1999 yr ydym, drwy Gyngor Chwaraeon Cymru, wedi buddsoddi dros £250,000 mewn pêl-droed yn y Gogledd-ddwyrain ar lefel gymunedol. Mae hyn yn cynnwys bron i £60,000 tuag at ddatblygu pêl-droed menywod, merched a phobl ifanc, sy’n cydglymu â’n nodau a’n hamcanion cyffredinol fel y’u nodwyd yn ‘Dringo’n Uwch’.
Yn ogystal, drwy Gyngor Chwaraeon Cymru, yr ydym yn cefnogi Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl- droed Cymru yn y gwaith o ddatblygu pêl-droed ar xxxx gwlad, drwy ran gyllido swyddogion datblygu pêl-droed ym mhob un o’r awdurdodau lleol yn y Gogledd-ddwyrain. Rhan o’u briff penodol yw gweithio gydag ysgolion, colegau, clybiau, grwpiau anabledd a phartneriaid allweddol eraill i greu cyfleoedd a meithrin xxxx.
Xxxx Xxxxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn helpu llyfrgelloedd i ddatblygu eu potensial fel adnodd addysgol? (WAQ48106)
Xxxx Xxxx: Ers ei sefydlu ar 1 Ebrill 2004, mae isadran CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru wedi gweithio’n llwyddiannus mewn partneriaeth â’r sector i ddatblygu gwasanaethau arloesol, o ansawdd uchel. Mae ein rhaglen grantiau Annog Addysg yn darparu
£280,000 y flwyddyn, ac xxx xxx ein rhaglen @Xxxx Llyfrgell Chi, rhaglen ddatblygu strategol gychwynnol 2005-07, gyllideb o £2 filiwn dros ddwy flynedd. Nod y rhaglenni hyn yw datblygu potensial llyfrgelloedd fel adnodd addysgol drwy:
ehangu mynediad cyhoeddus at adnoddau cyfoethog llyfrgelloedd cyhoeddus a llyfrgelloedd addysg uwch ar draws Cymru, yn cynnwys llyfrgelloedd cyhoeddus yn sir y Fflint;
datblygu adnoddau llyfrgell ar-lein newydd ar gyfer xxxx ddefnyddwyr Cymru, fel xxx.xxxxxxxxx.xxxxx.xxx, sydd ag adrannau cymorth gwaith cartref a byd o ddysgu sy’n darparu cysylltiadau â gwefannau sydd wedi cael eu dilysu: a mynediad ar-lein at dros 100 o lyfrau cyfeirio ac ôl-rifynnau o rai o bapurau newydd y DU;
helpu llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru i gymryd rhan yn her ddarllen flynyddol yr haf er mwyn annog plant i ddarllen. Mae sir y Fflint, er enghraifft, yn cymryd rhan a hefyd yn cynnal gweithgareddau eraill i blant dros yr haf i’w hannog i ddarllen a datblygu.
Mae llyfrgelloedd yn lleoedd naturiol ar gyfer dysgu gydol oes ac maent yn datblygu eu hadnoddau addysgol eu hunain mewn amryw o ffyrdd. Er enghraifft:
efallai eu bod yn darparu ‘sesiynau blasu’ cyfrifiadura. Mae gwasanaeth llyfrgell sir y Fflint yn cynnig sesiynau blasu ar nifer o bynciau cyfrifiadura megis e-xxxx, ymchwilio i xxxxx teuluol a’r rhyngrwyd;
mae llyfrgelloedd cyhoeddus yn darparu mynediad am ddim at gyfrifiaduron. Xxx xxx y xxxx fwyaf o lyfrgelloedd sefydlog yn sir y Fflint gyfrifiaduron at ddefnydd y cyhoedd ac maent i gyd am ddim;
mae gwasanaethau llyfrgell yn datblygu eu cyfarpar TGCh. Yn sir y Fflint xxx xxx ganolfan ddysgu TGCh newydd wedi cael eu creu. Mae’r ystafelloedd hyfforddiant TGCh ar gael i ddarparwyr trydydd parti i gynnal cyrsiau addysgol a chyrsiau hyfforddi.
Xxxxx Xxxx Xxxxx: A fyddai’r Gweinidog gystal â gwneud datganiad am dimau chwaraeon cymunedol amatur yng Nghymru? (WAQ48107)
Xxxx Xxxx: Xxx xxx dimau a chlybiau chwaraeon amatur yng Nghymru ran allweddol i’w chwarae o ran cyrraedd ein targedau ‘Dringo’n Uwch’ drwy helpu i gynyddu’r cyfleoedd i bobl leol i gymryd rhan mewn ystod xxxx o chwaraeon a gweithgareddau corfforol.
Bydd y £7.8 miliwn o arian ychwanegol y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei fuddsoddi yn y xxxxx a’r llall o’r ddwy flynedd nesaf drwy ein fframwaith gweithredu ‘Dringo’n Uwch’ yn helpu’r timau a’r clybiau hynny i gynnal a gwella ansawdd ac amlder y cyfleoedd hynny.
Xxxxx Xxxxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adeiladau hanesyddol yn y Gogledd- ddwyrain? (WAQ48108)
Xxxx Xxxx: Xxx xxxx i 6,000 o adeiladau rhestredig o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig a thros 500 o henebion rhestredig yn y Gogledd-ddwyrain. Mae’r rhain yn cynnwys adeiladau a strwythurau o wahanol fathau, ond maent i gyd yn cyfrannu at dreftadaeth unigryw’r rhanbarth. Yn arbennig, yr wyf yn mawr groesawu enwebiad traphont ddwr Pontcysylltau, ynghyd â’r camlesi o’i hamgylch, fel Safle Treftadaeth Byd yn ddiweddar.
Mae traphont ddwr Pontcysylltau yn adnodd hanesyddol mawr i’r Gogledd-ddwyrain a byddai ennill statws treftadaeth byd x xxxxx mawr i’r rhanbarth.
Mae’r adeiladau a’r strwythurau hanesyddol hyn i gyd yn tystio i le’r Gogledd-ddwyrain yn xxxxx Cymru. Mae’n hanfodol eu bod yn cael eu cadw, eu gwerthfawrogi a’u dathlu.
Xxxx Xxxxxxxx: Xxxx y xxx Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i gynyddu cyfranogaeth yn y celfyddydau ymhlith unigolion a chymunedau sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf yn y xxxx hwn? (WAQ48109)
Xxxx Xxxx: Xxx xxx Gymru rwydwaith rhagorol o ganolfannau ac orielau celf, fel y Waterfront, Casnewydd, a chanolfannau o safon fyd-xxxx fel Canolfan Mileniwm Cymru a Galeri yng Nghaernarfon. Mae cynlluniau fel y celfyddydau y tu xxxxx i Gaerdydd wedi helpu i sicrhau bod pobl ar draws Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf, wedi gallu cymryd rhan mewn digwyddiadau celfyddydol fel teithiau theatr symudol Clwyd Theatr Cymru, sydd wedi cynnwys Cei Connah, a’u mwynhau. Mae cynllun xxxxx xxxxx Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd wedi gwella mynediad cymunedol i’r celfyddydau yn fawr.
Cyflwynwyd polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru o fynediad am ddim i Amgueddfa Cymru ym mis Ebrill 2001 ac xxx xxxx bobl Cymru, ac ymwelwyr â Chymru, yn cael y cyfle erbyn hyn i werthfawrogi, mwynhau a dysgu oddi wrth ein casgliadau cenedlaethol sy’n cael eu dal ar saith safle ledled Cymru.
O’r dechrau, mae’r polisi wedi bod yn llwyddiant ysgubol gyda chynnydd mawr yn y nifer o ymwelwyr. Xxxxxx y ffigyrau am 2004/05 gynnydd o 77 y cant dros y flwyddyn ddiwethaf y codwyd tâl ynddi. Yn 1998/99, deuai 31 y cant o’r ymwelwyr o ddosbarthiadau cymdeithasol C2DE: yn 2001/02, deuai 37 y cant o’r cefndir hwn. O gyfanswm yr ymweliadau a gafwyd yn y xxxxx flwyddyn a’r llall, mae’r amgueddfa wedi cyfrifo bod y nifer o ymwelwyr o ddosbarthiadau cymdeithasol
C2DE wedi dyblu ar ôl cyflwyno mynediad am ddim. Yr oedd 45 y cant o’r ymwelwyr a gymerodd ran yn arolwg ymwelwyr 2004/05 yn ymweld ag Amgueddfa Cymru am y tro cyntaf, sy’n dangos llwyddiant yr amgueddfa yn xxxx ymwelwyr newydd—ac, yn ddiamheuaeth, mae mynediad am ddim yn help yn hynny o xxxx.
Xxx cynllun ‘Ar Dir Cyffredin’ Amgueddfa Cymru wedi bod yn hynod o lwyddiannus yn helpu pobl ifanc mewn gwahanol rannau o Gymru i ddatblygu diddordeb mewn amgueddfeydd a threftadaeth.
Mae’r prosiect yn gweithio gyda phobl ifanc mewn pump o gymunedau ar draws Cymru dros gyfnod o ddwy flynedd ac mae wedi cael ei gyllido i raddau helaeth gan Amcan 1 a Chronfa Dreftadaeth y Loteri.
Amgueddfa Cymru yw’r prif leoliad ar gyfer yr Wyl Diwylliannau Mwslimaidd ac mae wedi neilltuo staff ac adnoddau i’r prosiect. Mae’r wyl, sy’n para blwyddyn, yn ddathliad o fynegiad diwylliannol ac artistig cyfoethog pobl Fwslimaidd a’i nod yw cynyddu dealltwriaeth a hyrwyddo parch. Hefyd, fel rhan o’i hymrwymiad i’r boblogaeth o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, mae Amgueddfa Cymru yn trefnu’r wyl flynyddol, ‘Gwyl Cymru a’r Byd’, i ddathlu diwylliannau Cymru. Targedir deunyddiau marchnata drwy gyrff ac asiantaethau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig arbenigol, yn ogystal â thrwy lwybrau mwy cyffredinol.
Mae traddodiad gwyliau Cymru, fel yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, y Faenol a Gwyl Lenyddol y Gelli, yn gyfle rhagorol i’r cyhoedd i fanteisio ar y celfyddydau. Ychwanegwyd at y traddodiad hwn dros y blynyddoedd diwethaf ac xxx xxxxxxx yn cynnwys nifer gynyddol o wyliau lleol sy’n gwneud enw i’w hunain, fel Gwyl Gerdd Glannau Dyfrdwy.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wrthi ar hyn x xxxx yn adolygu ei strategaeth ddiwylliant, a fydd yn cynnwys ystyried y ffordd orau o ddarparu mynediad at y celfyddydau. Mae rhwystrau gwirioneddol rhag gallu cyrchu at y celfyddydau o hyd mewn rhai cymunedau yng Nghymru, ac xxx xxxxx diwygio ar gyfer y dyfodol i sicrhau ein bod yn parhau fel gwlad i ddatblygu celfyddyd ragorol, gyda mynediad i bawb.
Xxxx Xxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo Cymru dramor fel lleoliad o'r radd flaenaf ar gyfer chwaraeon? (WAQ48111)
Xxxx Xxxx: Xxx xxx Gymru enw da drwy’r byd fel lleoliad chwaraeon o’r radd flaenaf ac mae’r digwyddiadau hyn yn codi proffil Cymru ledled y byd.
Mae presenoldeb Xxx Cymru yng Nghwpan Ryder yn Swydd Kildare yn ddiweddar wedi helpu i godi proffil Cymru fel y wlad noddi nesaf. Yr oedd hynny’n caniatáu inni ddenu darpar fuddsoddwyr allweddol a chynnal trafodaethau â hwy ac yr oedd yn help i sicrhau y byddwn yn gwbl xxxxx ar gyfer y digwyddiad yn y Celtic Manor.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Xxxxxx, Arloesi a Rhwydweithiau
Xxxxxxx Xxxxxx: A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau i wella’r rhwydwaith ffôn argyfwng ar fin y ffordd yng Nghymru? (WAQ48128)
Y Gweinidog dros Xxxxxx, Arloesi a Rhwydweithiau (Xxxxxx Xxxxxx): Xxx strategaeth bum mlynedd (ddrafft) Traffig Cymru yn nodi’r cynlluniau canlynol o ran y rhwydwaith ffôn argyfwng ar fin y ffordd yng Nghymru:
• darparu ffonau argyfwng ar fin y ffordd mewn mannau gwledig ar draws y rhwydwaith lle nad oes derbyniad i ffonau symudol;
• cwblhau’r gwaith o uwchradd ffonau argyfwng ar fin y ffordd i ddefnyddio cysylltiadau protocol rhyngrwyd;
• uwchraddio setiau llaw ffonau argyfwng ar fin y ffordd. Bydd hyn yn cyd-fynd â pholisi ffonau argyfwng yr Asiantaeth Priffyrdd;
• bydd y canolfannau rheoli traffig yn y Gogledd a’r De yn dod yn gyfrifol am reoli systemau ar fin y ffordd (arwyddion, signalau, teleffonau ac ati) eu hunain, a dim ond drwy gais gan Traffig Cymru y bydd yr heddlu’n gweithio’r cyfleusterau hyn.
Xxxxxx Xxxx: A wnaiff y Gweinidog restru’r prosiectau y dyrannwyd arian Amcan 1 iddynt yn a) y Rhondda, b) Cwm Cynon, c) Pontypridd, a d) Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys manylion am faint o arian a ddyrannwyd i xxx prosiect a faint o swyddi a grëwyd xxx xxx un? (WAQ48078)
Xxxxxx Xxxxxx: Xxx gwefan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru xxx.xxxx.xxxxx.xxx.xx yn darparu manylion am yr xxxx xxxxxxxxxx xxxxx Xxxxx 0 sydd wedi cael cymorth, yn ôl ardaloedd partneriaeth.
Darperir dros 50 y cant o arian Amcan 1 drwy bartneriaethau nad ydynt yn rhai lleol sy’n cwmpasu ardal Amcan 1 yn ei chyfanrwydd, ac maent yn dod â xxxx ar lefel partneriaethau lleol. Fodd bynnag, nid yw’n bosibl dadansoddi gwariant partneriaethau nad ydynt yn rhai lleol yn ôl ardaloedd awdurdodau lleol unigol.
Mae llawer o brosiectau yn darparu cymorth ac yn cyflawni canlyniadau ar wahân i greu swyddi, megis cefnogi gweithredu i fynd i’r afael ag allgáu cymdeithasol, hyrwyddo cyfle cyfartal, a darparu llwybrau at ddysgu a chyflogaeth.
Xxxxxx Xxxxxxxx: Pa fodelu sydd wedi’i wneud i xxxx xxxx fyddai'r effaith ar ddalgylchoedd ac ar ddarparu lleoedd ychwanegol mewn ysgolion lleol yn sgil y senarios a ddarparwyd gan gonsortiwm Metrix pe digwyddai i brosiect Sain Tathan fod yn llwyddiannus? (WAQ48139)
Xxxxxx Xxxxxx: Fe’ch cyfeiriaf at yr ateb a roddais i WAQ47725 a WAQ47726 ar 4 Medi 2006.
Xxxxxx Xxxxxxxx: Pa xxxx yr asesir effaith cynigion Metrix ar Sain Tathan o ran y seilwaith trafnidiaeth presennol ac a ymgynghorir â phobl leol ynghylch effaith hyn yn lleol? (WAQ48140)
Xxxxxx Xxxxxx: Caiff asesiad llawn o’r effaith ar drafnidiaeth ei gyhoeddi fel rhan o unrhyw gais cynllunio a gyflwynir gan gonsortiwm Metrix yn y dyfodol i ddatblygu academi hyfforddi yn Xxxx Tathan; a bydd hyn yn ddarostyngedig i’r ymgynghori lleol arferol o xxx y drefn gynllunio.
Xxxxxx Xxxxxxxx: Pa ymrwymiadau di alw’n ôl a wnaethpwyd i gonsortiwm Metrix i roi cefnogaeth ariannol neu gefnogaeth ymarferol iddynt? (WAQ48141)
Xxxxxx Xxxxxx: Xxx Xxxx Xxxxxx mewn ardal nas cynorthwyir ac nid yw felly’n cael unrhyw gymorth gwladol nac xxxxx xxx Lywodraeth y Cynulliad. Yr ydym wedi ymrwymo i ddarparu tir gyda gwasanaethau arno, sy’n unol â gofynion Metrix, am xxxxx y farchnad.
Xxxxxx Xxxxxxxx: Faint o swyddi newydd ar gyfer pobl leol a grëid petai cais Metrix yn Xxxx Tathan yn llwyddiannus ac ar xx xxxx o amserlen fyddai hynny? (WAQ48142)
Xxxxxx Xxxxxx: Bydd yr academi hyfforddi arfaethedig yn darparu ffynhonnell gyflogaeth bwysig i bobl leol. A chymryd bod Metrix yn cael ei ddewis fel yr ymgeisydd a ffafrir ar gyfer y xxxxx becyn a’r llall yn y contract, mae’n amcangyfrif y bydd yr academi hyfforddi yn:
• creu tua 4,000 o swyddi ar y safle a 1,500 o swyddi eraill oddi ar y safle;
• creu 1,500 o swyddi yn ystod y gwaith adeiladu: ac yn
• chwistrellu dros £58 miliwn y flwyddyn i’r economi leol.
Caiff y swyddi hyn eu creu o 2008 ymlaen, pryd y dylai’r gwaith adeiladu ddechrau ar y safle, hyd at a thu hwnt i 2012 pan ddisgwylir i’r carfannau cyntaf o hyfforddeion ddechrau ar eu haseiniadau.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Xxxxx Xxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drafodaethau a gafodd hi a’i hadran gyda’r ysgrifennydd gwladol dros addysg a’i adran ynghylch gwaith cwrs TGAU? (WAQ48085)
Y Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Xxxx Xxxxxxxx): Xxx’r adolygiad o waith cwrs TGAU wedi bod ar y gweill er 2005. Yr oedd hwn yn waith ar y cyd ar draws Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, xxx arweiniad yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm yn Lloegr. Mae fy swyddogion wedi cyfrannu’n llawn ar xxx cam ac wedi fy mriffio’n fanwl ddwywaith am hynt y gwaith—unwaith ym mis Mehefin ac yn fwy diweddar ym mis Medi. Cytunodd fy swyddogion a’u cymheiriaid yn yr Adran Addysg a Sgiliau ar gynigion a fyddai’n briodol i Gymru a Lloegr. Mae’r adolygiad hwn wedi arwain at nifer o argymhellion positif, y xxx xxxxx o dystiolaeth yn gefn iddynt, a fydd o fudd i ddysgwyr yng Nghymru. Yn fy adroddiad i gyfarfod y Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ar 18 Hydref yr wyf yn gwneud datganiad llawn ar y cynigion hyn.
Xxxx Xxxxxx: Xxxx yw amserlen y Gweinidog ar gyfer sefydlu lluoedd cadéts cyfun yn ysgolion Cymru? (WAQ48138)
Xxxx Xxxxxx: Pa gynnydd y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o ran sefydlu lluoedd cadéts cyfun yn ysgolion Cymru? (WAQ48137)
Xxxx Xxxxxxxx: Cyfarfûm â’r Brigadydd Xxxx Xxxxxxxxx, Cadlywydd Brigâd 160 (Cymru), ar 11 Hydref 2006, i drafod cynllun y Weinyddiaeth Amddiffyn i gynyddu’r nifer o finteioedd lluoedd cadéts cyfun mewn ysgolion ar draws y DU. Fel cynllun peilot, mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn o blaid datblygu mintai mewn ysgol wladol yng Nghymru. Gofynnodd y Brigadydd Cholerton am fy nghefnogaeth i’r cynllun peilot ac fe’i cafodd. Mae cyfarfod i fod i gael ei gynnal gydag ysgol i drafod a yw am gymryd rhan yn y cynllun peilot. Os nad yw, yr wyf wedi cytuno i helpu i ddynodi ysgolion addas eraill.
Nid yw’r cynllun peilot ond yn ei gyfnodau cynnar ond disgwylir iddo ddatblygu’n gyflym dros y misoedd i ddod. Bwriedir i’r cynllun fod yn weithredol erbyn 1 Ebrill 2007.
Xxxxxxx Xxxxxx: Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog neu ei swyddogion wedi’u cael gyda chynrychiolwyr y proffesiwn addysgu ynghylch mater penodol newid elfen gwaith cwrs arholiadau TGAU ac a wnaiff ddarparu manylion a dyddiadau’r cyfarfodydd a gynhaliwyd? (WAQ48143)
Xxxx Xxxxxxxx: Cynhaliodd fy swyddogion seminar asesu gwaith cwrs TGAU ar 15 Medi 2006 a daeth aelodau o’r proffesiwn dysgu yng Nghymru iddo. Aethant i ddau seminar a drefnwyd gan y QCA yn Lloegr hefyd ar 5 Medi. Rhoddodd y seminarau hyn gyfle i drafod gydag athrawon y berthynas rhwng canlyniadau dysgu, dulliau addysgu a dulliau asesu ar lefel TGAU. Yr oedd
canlyniadau’r seminarau yn rhan o’r sylfaen dystiolaeth y seiliwyd fy mhenderfyniadau arnynt.
Yn gynharach, comisiynodd QCA, ar ran yr awdurdodau rheoleiddio, arolwg o farn athrawon am waith cwrs rhwng 9 a 26 Mai 2006. Yr oedd yr arolwg hwn, a gynhaliwyd gan MORI, yn cynnwys athrawon o Gymru. Mae’r adroddiad wedi cael ei gyhoeddi ar wefan QCA.
Yn ogystal, ymgymerodd fy swyddogion ag ymgynghoriad drwy’r post a thros y we rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2006 am y gwaith cwrs mewn TGAU mathemateg. Aeth yr ymgynghoriad drwy’r post i xxx ysgol uwchradd a choleg yng Nghymru. Yr oedd mwyafrif clir o’r rhai a ymatebodd o blaid cael gwared â’r gofynion gwaith cwrs mewn TGAU mathemateg.
Xxxxxxx Xxxxxx: Pa xxxx yr hysbyswyd y Gweinidog gyntaf am gyhoeddiad Xxxx Xxxxxxx yng Nghynhadledd y Blaid Lafur ynghylch gwaith cwrs TGAU? (WAQ48144)
Xxxx Xxxxxxxx: Ni chefais fy hysbysu gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg nac unrhyw rai o swyddogion y DfES am y cyhoeddiad cyn iddo gael ei wneud gan Xxxx Xxxxxxx yng nghynhadledd y Blaid Lafur ac yr wyf wedi codi’r mater gydag ef. Serch hynny, cytunwyd ar sylwedd y penderfyniadau yn ymwneud â gwaith cwrs TGAU ar lefel swyddogion cyn y cyhoeddiad.
Xxxxxxx Xxxxxx: Pa drafodaethau a gafodd y Gweinidog ag Xxxx Xxxxxxx ynglyn â'r cyhoeddiad am waith cwrs TGAU cyn i’r cyhoeddiad gael ei wneud ac a wnaiff hi restru dyddiadau unrhyw drafodaethau o'r fath? (WAQ48145)
Xxxx Xxxxxxxx: Bu fy swyddogion yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn y cyd gyrff rheoleiddio ac yn y DfES i ddarparu cyngor tebyg i’r Gweinidogion yn y ddwy wlad. Fodd bynnag, ni thrafodwyd y cyhoeddiad gan Xxxx Xxxxxxx yng nghynhadledd y Blaid Lafur gyda mi na’m swyddogion ac yr wyf wedi codi’r mater gydag ef.
Xxxxxxx Xxxxxx: Xxxx oedd y rhesymau dros ddatganiad y Gweinidog am benderfyniad a gymerwyd ynghylch gwaith cwrs TGAU sy’n effeithio ar Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ar y cyd? (WAQ48146)
Xxxx Xxxxxxxx: Xxx adolygiad mawr o waith cwrs wedi bod ar y gweill yn dilyn pryderon a godwyd yn yr adroddiad, ‘A review of GCE and GCSE coursework arrangements’, Tachwedd 2005, a gyhoeddwyd gan QCA ar ran y rheoleiddwyr cymwysterau yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon.
Yr oedd a wnelo’r pryderon hyn â’r diffyg gwarant a dibynadwyedd yn y trefniadau presennol ar gyfer gwaith cwrs. Mae ymgeiswyr yn gwneud gwaith cwrs mewn llawer o bynciau heb oruchwyliaeth agos. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd i athrawon fod yn siwr mai gwaith yr ymgeisydd ei hun yw’r gwaith. Mae’r diffyg rheolaeth dros y ffordd y caiff y gwaith ei wneud wedi arwain at:
• y posibilrwydd o lên-ladrad (y rhyngrwyd yn arbennig) mewn rhai pynciau;
• y posibilrwydd o gopïo oddi wrth ffrindiau a pherthnasau;
• gwahanol raddau o help gan athrawon a rhieni;
• amrywiaethau ar draws ysgolion o ran faint o ailddrafftio sy’n cael ei ganiatáu.
Yn ogystal, nid yw athrawon, rhieni na’r disgyblion eu hunain yn hollol glir ynglyn â’r hyn sydd yn gamymddygiad mewn gwahanol bynciau. Mae’r diffyg rheolaeth a gwarant gyffredinol yn yr asesiadau hyn hefyd yn tanseilio ffydd y cyhoedd yn y cymwysterau TGAU ac yn nhegwch a dibynadwyedd y graddau a ddyfernir.
Mae’r adolygiad wedi arwain at nifer o argymhellion positif, y xxx xxxxx o dystiolaeth yn gefn iddynt, a fydd o fudd i ddysgwyr yng Nghymru. Rhaid inni fod yn xxxxx i adolygu ein xxxxxx xxx amser i sicrhau bod trylwyredd digonol yn y system i ennyn ffydd y cyhoedd.
Mae’n wirioneddol bwysig bod pobl yn parchu ac yn gwobrwyo’r gwaith caled sy’n cael ei wneud gan ddisgyblion. Mae’r newidiadau wedi’u bwriadu i fynd i’r afael â’r pryderon sydd wedi codi ynglyn â sicrhau mai gwaith disgyblion eu hunain yw’r gwaith sy’n cael ei asesu ac nad yw, hyd yn oed yn rhannol, yn ffrwyth lefelau amhriodol o gymorth neu hyd yn oed lên-ladrad drwy’r rhyngrwyd neu unrhyw le arall.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
Xxxxx Xxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr amserlen ar gyfer cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer sbwriel yng Nghymru xxx ddarpariaethau’r Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005? (WAQ48059)
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad (Xxxxxx Xxxxx): Xxx xxx awdurdodau lleol yng Nghymru y pwer eisoes i godi hysbysiadau cosb benodedig am droseddau sbwriel, o xxx xxxxx 88 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Cynyddwyd y gosb benodedig hon o
£25 i £75 pan gyflwynwyd Gorchymyn Sbwriel a Baeddu gan Gwn (Cosb Benodedig) (Cymru) 2004, ym mis Ebrill 2004, i adlewyrchu difrifoldeb y drosedd.
Ar ôl trosglwyddo pwerau o xxx Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005, bwriadaf ymgynghori ynghylch rheoliadau yn cynnwys caniatáu i awdurdodau lleol bennu lefel yr hysbysiad cosb benodedig am y drosodd o ollwng sbwriel, ar ystod rhwng £75 a £150.
Xxxxxxx Xxxxxxx : Yn dilyn datganiad y Gweinidog ar 27 Medi gyda golwg ar Chwarel yr Hafod yn Wrecsam, a all gadarnhau neu beidio bod ganddo’r pwer cyfreithiol i ddiddymu’r caniatâd cynllunio? (WAQ48075)
Xxxxxx Xxxxx: O xxx y ddeddfwriaeth gynllunio xxx xxx y Cynulliad Cenedlaethol bwerau i ddirymu a therfynu caniatâd cynllunio. Mae’r pwerau hyn yn ddigonol i ddiddymu unrhyw ganiatâd cynllunio lle mae’r amgylchiadau yn caniatáu hynny.
Xxxxxxx Xxxxxxx: Yn dilyn datganiad y Gweinidog ar 27 Medi gyda golwg ar Chwarel yr Hafod yn Wrecsam, a all gadarnhau neu beidio bod ganddo’r pwer cyfreithiol i gyhoeddi gorchymyn i xxxx gwaith tirlenwi? (WAQ48076)
Xxxxxx Xxxxx: Xxx xxx y Cynulliad Cenedlaethol y pwer o xxx Reoliadau Xxxx a Rheoli Llygredd 2000 i gyfarwyddo Asiantaeth yr Amgylchedd mewn perthynas xx xxxxx ei phwerau i ddiwygio, xxxx xxx ddirymu trwyddedau tirlenwi. Mae’r pwer hwn wedi cael ei ddirprwyo i mi. Rhaid i’r pwer gael xx xxxxx yn iawn, yn unol â’r gofynion sydd wedi’u nodi yn y ddeddfwriaeth berthnasol.
Xxxx Xxxxx: Yn dilyn paragraff 9.753 yng Nghynllun Datblygu Gwledig 2000-06, ar gyfer pob blwyddyn er 1999 tan y flwyddyn ariannol nesaf, a wnaiff y Gweinidog roi manylion y cyfraniad cymunedol (i) a geisiwyd, a (ii) a gafwyd ar gyfer (a) Tir Mynydd, (b) Tir Gofal, (c) Tir Cynnal fel canran o’r gost gyhoeddus? (WAQ48126)
Xxxx Xxxxx: Yn dilyn paragraff 9.753 yng Nghynllun Datblygu Gwledig 2000-06, ar gyfer pob blwyddyn er 1999 tan y flwyddyn ariannol nesaf, a wnaiff y Gweinidog egluro a ellid cael cyfraniad cymunedol o 25% o’r gost gyhoeddus ar gyfer (a) Tir Mynydd, (b) Tir Gofal, (c) Tir Cynnal, ac a wnaiff ddweud xxx na chafwyd y cyfraniad llawn o 25% ar gyfer pob cynllun? (WAQ48127)
Xxxxxx Xxxxx: Dywed paragraff 9.7.53
ni fydd y cyfraniad Cymunedol yn fwy na 25% o’r gost gyhoeddus.
Llywodraeth y Cynulliad sydd wedi pennu sut y dyrennir adnoddau’r UE ar draws pob echelin yn y cynllun, gan gymryd i ystyriaeth fframwaith cyfreithiol yr UE a’r cyfyngiadau a osodir gan y lefel o gyllid UE sydd ar gael. Mae’n gwneud hynny drwy gytundeb â’r comisiwn. Yn erbyn y cefndir hwn, mae’r cyfraniad cymunedol mewn perthynas â Tir Mynydd yn 15 y cant ar gyfartaledd dros flynyddoedd 2001 i 2006 y cynllun. O ran Tir Gofal a Tir Cynnal, mae’r cyfraniad yn 35 y cant a 0 y cant y xxxxx a’r llall. Cymhwyswyd cyfraniadau UE i fesurau eraill yn y cynllun hefyd fel Cyswllt Ffermio, y grant prosesu a marchnata, grantiau arloesi ar ffermydd a grantiau mentrau fferm ac o xxx y pennawd erthygl 33 i wella ansawdd bywyd mewn cymunedau gwledig.
Gan fod arian yr UE yn adnodd sydd a therfynau iddo, er mwyn cynyddu’r cyfraniad cymunedol i unrhyw fesur unigol neu fesurau, byddai’n rhaid cwtogi ar y cyfraniad i weithgareddau mewn rhannau eraill o’r cynllun i wneud iawn am hynny.
O ran blwyddyn ariannol 2007-08, daw’r cyfnod hwnnw o fewn cylch rhaglennu 2007 i 2013 yr UE. Mae’r cynllun datblygu gwledig olynol yn cael ei baratoi’n derfynol cyn iddo gael ei gyflwyno i’r comisiwn am gymeradwyaeth. Bydd y ddogfen derfynol yn bodloni’r gofynion cyfreithiol a thechnegol a osodwyd gan y comisiwn, sydd wedi newid yn sylweddol o’u cymharu â’r gofynion a oedd yn berthnasol i’r cynllun cyfredol. Yr hyn a fydd yn gyson yw y bydd yr arian o du’r UE i gefnogi datblygu gwledig o 2007 ymlaen yn adnodd sydd a therfynau iddo.
Xxxx Xxxxx: A yw’r Gweinidog yn bwriadu defnyddio cronfeydd wedi’u modiwleiddio i dalu am ffermio sensitif-i-ddalgylch, ac os felly, o ble y daw'r arian cyfatebol? (WAQ48129)
Xxxxxx Xxxxx: Nid wyf yn bwriadu defnyddio cronfeydd wedi’u modiwleiddio i hybu’r cynllun ffermio sensitif-i-ddalgylch ond mae’r opsiwn hwn yn dal i fod ar agor os bydd y pwysau ariannol yn golygu nad oes gennyf ddewis.
Xxxx Xxxxx: A wnaiff y Gweinidog roi manylion ffrydiau ariannu Tir Mynydd a wariwyd yn 2005/06? (WAQ48130)
Xxxxxx Xxxxx: Fe’ch cyfeiriaf at yr ateb a ddarperais ichi ar 13 Medi mewn ymateb i WAQ47785.
Xxxx Xxxxx: Yn dilyn ei ddatganiad ysgrifenedig ar 4ydd Hydref 2006, a wnaiff y Gweinidog egluro pa gynlluniau a fydd yn cael eu hariannu drwy gyfrwng arian cyfatebol gan y Trysorlys? (WAQ48131)
Xxxxxx Xxxxx: At ddibenion y cynllun datblygu gwledig cyfredol, xxx xxxxx cyfatebol gan y Trysorlys wedi cael ei gynnwys yn xxxxx yn y terfyn gwariant adrannol cyffredinol a osodwyd i Lywodraeth y Cynulliad o fewn pob adolygiad o wariant. Nid yw’r swm hwn yn cael ei neilltuo. Mae terfyn gwariant Tir Cymru yng nghyllideb y DU yn cynnwys yr arian cyfatebol. Y terfyn gwariant hwn sy’n darparu arian Llywodraeth y Cynulliad tuag at gynlluniau Xxx Xxxxx a Xxx Xxxxxx.
Xxxx Xxxxx: Yn dilyn ei ddatganiad ysgrifenedig ar 4d Hydref 2006, a wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ffermio sensitif-i-ddalgylch gan nodi xxxx yw ei nod? (WAQ48132)
Xxxxxx Xxxxx: Diben y rhaglen ffermio sensitif-i-ddalgylch yw cefnogi cynlluniau i hyrwyddo ffermio sy’n sensitif i’r amgylchedd, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae llygredd gwasgaredig o amaethyddiaeth yn bryder.
Xxxx Xxxxx: Yn dilyn ei ddatganiad ysgrifenedig ar 4d Hydref 2006, a wnaiff y Gweinidog ddweud faint o arian sydd wedi’i ddyrannu ar gyfer ffermio sensitif-i-ddalgylch, a faint sydd wedi’i wario, gan nodi faint o gytundebau a lofnodwyd a faint o geisiadau sy’n weddill? (WAQ48133)
Xxxxxx Xxxxx: Xxx’r gyllideb ar gyfer cynlluniau yn ymwneud â ffermio sensitif-i-ddalgylch, yn cynnwys y ddau brosiect peilot yn y Gogledd a’r De, yn £2.1 miliwn yn 2006-07. Mae’n rhy gynnar i amcangyfrif y sefyllfa alldro o ystyried natur arbrofol y gweithgareddau sy’n cael cefnogaeth.
Xxxx Xxxxx: Yn dilyn ei ddatganiad ysgrifenedig ar 4 Hydref 2006, a wnaiff y Gweinidog nodi i ble y dyrannwyd y £10,995,000 a dynnwyd o linell gyllideb Tir Mynydd? (WAQ48134)
Xxxxxx Xxxxx: Nid oes gostyngiad. Fel y gwnaed yn glir yn y datganiad, yr oedd y ffigur ar gyfer Tir Mynydd yn anghywir oherwydd camgymeriad gweinyddol. O fewn terfyn gwariant Tir Cymru yng nghyllideb y DU, mae’r ddarpariaeth yn y gyllideb ar gyfer Tir Mynydd yn £18.772 miliwn, sy’n cynrychioli’r arian o adnoddau Llywodraeth y Cynulliad ei hun. Ategir hyn â £5.228 miliwn o arian UE sydd wedi ei gynnwys yn nherfyn gwariant Tir Cymru yn y gyllideb (gwariant a reolir yn flynyddol).
Xxxx Xxxxx: Yn dilyn ei ddatganiad ysgrifenedig ar 4 Hydref 2006, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau y bydd cronfeydd a drosglwyddwyd yn derbyn arian cyfatebol gan y Trysorlys? (WAQ48135)
Xxxxxx Xxxxx: At ddibenion y cynllun datblygu gwledig cyfredol, xxx xxxxx cyfatebol gan y Trysorlys wedi cael ei gynnwys yn xxxxx yn y terfyn gwariant adrannol cyffredinol a osodwyd i Lywodraeth y Cynulliad o fewn pob adolygiad o wariant. Nid yw’r swm hwn yn cael ei neilltuo. Yr oedd terfyn gwariant Tir Cymru yng nghyllideb y DU 2006-2007 yn cynnwys yr arian cyfatebol.
Xxxx Xxxxx: Yn dilyn ei ddatganiad ysgrifenedig ar 4 Hydref 2006, a wnaiff y Gweinidog egluro i ble y mae’r gostyngiad o £5m yn Tir Cymru wedi’i ddyrannu? (WAQ48136)
Xxxxxx Xxxxx: Nid yw’r ddarpariaeth o £52.767 miliwn yn nherfyn gwariant Tir Cymru yng nghyllideb y DU ar gyfer 2006-2007 wedi cael ei lleihau.
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid
Xxxxxx Xxxx: Yn dilyn WAQ 47892, 47893, 47894, 47895, 47896, 47897,47899 a 47900, a wnaiff
y Gweinidog hefyd ddarparu’r wybodaeth yn y fformat y’i cedwir ar hyn x xxxx? (WAQ48077)
Y Gweinidog Cyllid (Xxx Xxxxx): Nid yw’r wybodaeth hon i gyd yn cael ei dal yn ganolog ac yr ydym yn gorfod ei chasglu o amryw o ffynonellau a ffeiliau, felly nid oes modd ei darparu yn y ffordd y gofynnwyd amdani.
Xxxx Xxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau cyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y 6 mis nesaf? (WAQ48089)
Xxx Xxxxx: Xxx blaenoriaethau cyllideb Llywodraeth y Cynulliad wedi cael eu nodi yn ‘Cymru: Gwlad Well’.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Xxxxx Xxxx Xxxxx: A wnaiff y Xxxxxxxxx roi manylion y cyfnod o oedi wrth drosglwyddo gofal yn ôl y canlynol: (i) y cyfartaledd, (ii) y llinell ganol, (iii) y 60ain canradd (iv) y 70fed (v) y 90fedcanradd? (WAQ48079)
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Xxxxx Xxxxxxx): Yr oedd cyfanswm y cleifion a oedd yn wynebu oedi wrth drosglwyddo gofal ar ddyddiad cyfrifiad 16 Awst 2006 yn 646. Yr oedd hyd yr oedi ar gyfartaledd yn 78 diwrnod. Dangosir canraddau’r cyfnodau o oedi yn y tabl isod:
Canradd | Hyd yr oedi (diwrnodau) |
50fed (median) | 42 |
60fed | 56 |
70ain | 77 |
80fed | 100 |
90ain | 168 |
Gellir cael gwybodaeth am oedi wrth drosglwyddo gofal yn y GIG am fis Awst 2006 yn natganiad ystadegol SDR111/2006, sydd ar gael ar y rhyngrwyd ar xxx.xxxxx.xxx.xx/xxxxxxxxxx. Mae gwybodaeth fanylach yn ôl y rheswm pennaf am yr oedi, ymddiriedolaeth a bwrdd iechyd lleol i’w gweld ar offeryn lledaenu data rhyngweithiol y Cynulliad ar xxx.xxxxxxxxxx.xxxxx.xxx.xx.
Xxxxx Xxxx Xxxxx: Yn dilyn ei ateb i WAQ47794, a wnaiff y Xxxxxxxxx roi manylion nifer yr achosion lle bu oedi wrth drosglwyddo gofal a hynny ar gyfer ardal pob BILl? (WAQ48080)
Xxxxx Xxxxxxx: Fe’ch cyfeiriaf at yr ateb a roddwyd gennyf i WAQ48033 a gyflwynwyd ar 29 Medi i’w ateb ar 4 Hydref 2004.
Xxxxx Xxxx Xxxxx: Yn dilyn ei ateb i WAQ47794, a wnaiff y Gweinidog roi’r rhesymau dros yr oedi wrth drosglwyddo gofal yr unigolion hyn? (WAQ48081)
Xxxxx Xxxxxxx: Yn ychwanegol at WAQ47794, y rhesymau am y 10 achos hiraf o oedi yng nghyfrifiad mis Gorffennaf 2006 oedd:
Rheswm dros yr oedi | Nifer o unigolion lle cafwyd oedi |
Yn aros am farn ymgynghorydd arall | 1 |
Yn aros am gwblhau asesiad am ofal nyrsio /gofal iechyd parhaus a gyllidir gan y GIG | 1 |
Dim lleoliad priodol wedi cael ei ganfod | 1 |
Anghytuno rhwng y claf/teulu a/neu ofalwr a’r gwasanaethau iechyd | 4 |
Anghytuno rhwng y claf/teulu a/neu ofalwr a’r gwasanaethau cymdeithasol | 1 |
Anghydweld rhwng yr ymddiriedolaeth a’r BILl am gymhwyster i gael gofal iechyd parhaus a gyllidir gan y GIG | 2 |
Xxxxx Xxxx Xxxxx: A wnaiff y Gweinidog roi manylion nifer y lleoedd hyfforddi i nyrsys yng Nghymru ar gyfer pob blwyddyn er 1997. (WAQ48082)
Xxxxx Xxxxxxx: Xxx’r nifer o leoedd hyfforddi i nyrsys yng Nghymru am y blynyddoedd rhwng 1997-98 a 2005-06 fel a ganlyn:
1997-98 | 2,371 |
1998-99 | 2,553 |
1999-00 | 2,664 |
2000-01 | 2,897 |
2001-02 | 3,261 |
2002-03 | 3,499 |
2003-04 | 3,782 |
2004-05 | 3,770 |
2005-06 | 3,672 |
Xxxxxxxx Xxxxxx: A wnaiff y Gweinidog gadarnhau (a) pa lefel o adnoddau a ddynodwyd ar gyfer cwblhau'r ysbyty plant a (b) yr amserlen ar gyfer rhyddhau'r arian? (WAQ48083)
Xxxxx Xxxxxxx: Nodwyd swm cyfalaf dangosol o £38.5 miliwn yn ‘Cynllun Oes’ ar gyfer camau 2a a 2b y datblygiad ysbyty arfaethedig, ond nid yw hwn yn swm sydd wedi cael ei ddyrannu. Ni wneir dyraniad hyd nes bydd Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro a’i chomisiynwyr wedi cwblhau’r gwaith ar yr achos busnes ar gyfer yr ysbyty arfaethedig, a bod yr achos busnes yn cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Xxxxxxxx Xxxxxx: A wnaiff y Gweinidog amlinellu: (a) faint o arian a ddyrannwyd i gwblhau cam cyntaf yr ysbyty plant a (b) faint o arian a wariwyd yn Llandochau? (WAQ48084)
Xxxxx Xxxxxxx: Gwariwyd cyfanswm o £11.35 miliwn ar gam cyntaf y gwaith o ddatblygu ysbyty plant i Gymru a chyfrannodd Llywodraeth Cynulliad Cymru £4.9 miliwn o’r swm hwnnw. O fewn y ffigurau hyn, gwariwyd £1.453 miliwn yn Llandochau.
Xxxxxx Xxxxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y canllawiau ar gyfer taliadau i ddeintyddion
y GIG ac am unrhyw fwriadau i roi canllawiau newydd, eglurach ar waith? (WAQ48086)
Xxxxx Xxxxxxx: Xxx taliadau i ddeintyddion sy’n darparu gwasanaethau deintyddol GIG sylfaenol yng Nghymru yn cael eu gwneud gan is-adran ymarfer deintyddol yr Awdurdod Gwasanaethau Busnes ar ran y byrddau iechyd lleol.
Y byrddau iechyd lleol, fel comisiynwyr gwasanaethau GIG, sy’n darparu’r data sy’n angenrheidiol ar gyfer taliadau cywir a phrydlon yn unol â’r ddeddfwriaeth alluogi yng Nghymru a ddaeth i rym i helpu gyda’r gwaith o gyflwyno’r contract deintyddol newydd ym mis Ebrill 2006.
Xxxxx Xxxxxxxxx: Xx xxxxx sy’n cael eu cymryd i roi pennod 8 newydd y fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer clefyd coronaidd y galon ar waith? (WAQ48090)
Xxxxx Xxxxxxx: Xxx’r grwp cyd-drefnu rhwydweithiau cardiaidd wedi cael ei gomisiynu i ddatblygu gofynion ansawdd i gyflyrau afreoleidd-dra’r galon a marwolaethau cardiaidd sydyn; y rhain yw testun y bennod 8 newydd yn fframwaith gwasanaeth cenedlaethol Lloegr ar gyfer clefyd coronaidd y galon. Mae’r gwaith yn cael ei symud ymlaen fel rhan o’r gwaith i ddiweddaru fframwaith gwasanaeth cenedlaethol Cymru ar gyfer clefyd coronaidd y galon, a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym mis Gorffennaf 2001, i adlewyrchu’r dystiolaeth glinigol ddiweddaraf, technoleg newydd a newidiadau sefydliadol. Caiff y fframwaith gwasanaeth cenedlaethol wedi’i ddiweddaru ei gyhoeddi yn 2007. Bydd y rhwydweithiau cardiaidd rhanbarthol yn arwain y broses o roi’r gofynion ansawdd newydd hyn o ran afreoleidd-dra’r galon ar waith yn gynyddol ac yn gwella’r ffordd y mae’r GIG yn ymateb i ddioddefwyr ifanc ataliad y galon (y rhai sy’n 40 oed ac iau) a’u teuluoedd.
Xxxxx Xxxxxxxxx: Sut y mae cynnydd lleol yn cael ei fesur o ran y safonau ansawdd a bennir yn y fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer clefyd coronaidd y galon? (WAQ48091)
Xxxxx Xxxxxxx: Xxx cynnydd o ran gweithredu’r safonau ansawdd yn y fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer clefyd coronaidd y galon yn cael ei fesur yn lleol drwy ddefnyddio amryw o ddangosyddion. Mewn gofal sylfaenol, mae’r rhain yn cynnwys: cyflawni’r dangosyddion fframwaith canlyniadau ansawdd a rhagnodi cyffuriau i ostwng lefelau lipid. Mewn gofal eilaidd, gellir dangos cynnydd drwy ddangosyddion sy’n dangos bod triniaethau cardiaidd wedi cael eu darparu’r amserol a thrwy’r nifer o driniaethau a gyflawnwyd yn ôl y boblogaeth.
Mae Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wrthi ar hyn x xxxx yn cynnal adolygiad ar y cyd o’r ffordd y mae’r fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer clefyd coronaidd y galon yn cael ei roi ar waith a bydd eu hadroddiad yn darparu tystiolaeth fanwl iawn am y cynnydd ar xxxxx XXXxxx, rhwydweithiau ac yn genedlaethol.
Mae fersiwn wedi’i ddiweddaru o’r fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer clefyd coronaidd y galon yn cael ei ddatblygu a bydd y gwaith hwn yn cynnwys gofynion ansawdd manwl. Bydd y
gofynion ansawdd hyn yn nodi ar lefel fanwl xxxx xx’n ofynnol er mwyn rhoi safonau’r fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar waith o ran nodweddion gwasanaeth, strwythur, prosesau a chanlyniadau. Mae’r gofynion ansawdd hyn yn addas ar gyfer hunanasesu neu adolygu gan gymheiriaid a byddant yn hwyluso’r ffordd i gyrff comisiynu a darparwyr i fonitro cydymffurfiaeth â safonau’r fframwaith gwasanaeth cenedlaethol.
Xxxxxx Xxxxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dyddiad a roddwyd i Fwrdd Iechyd Lleol Powys ar gyfer dychwelyd ei xxxx xxx gynigion ‘gwneud mwy, gwneud yn well’? (WAQ48092)
Xxxxx Xxxxxxx: Y cynigion yn ‘gwneud mwy, gwneud yn well’ yw cynlluniau strategol BILl Powys i gyflenwi gwasanaethau iechyd i drigolion Powys. Yr oedd y cynigion yn destun ymgynghoriad cyhoeddus rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2006 a chytunodd y BILl yn ei gyfarfod ar 27 Medi 2006 i ddatblygu cynllun i roi’r cynigion ar waith. Mae’n debygol y bydd angen ymgynghori pellach â’r cyhoedd ynglyn â manylion penodol y cynllun gweithredu yn dibynnu ar y lefel o newid sy’n cael ei hawgrymu mewn gwasanaethau.
Nid yw’n glir ar hyn x xxxx pa ofynion cyfalaf allai fod gan y BILl er mwyn rhoi’r cynlluniau ar waith. Byddai angen i unrhyw gais am gymorth ariannol i’r Cynulliad fod yn ddarostyngedig i graffu llawn a chymeradwyaeth yn unol â gofynion buddsoddiadau cyfalaf GIG Cymru gyfan. Ar hyn o xxxx xxxxx nid yw’n bosibl pennu erbyn pa ddyddiad y caiff unrhyw gais am gyllid ei wneud.
Xxxxx Xxxxxxxxx: A wnaiff y Gweinidog roi’r ystadegau diweddaraf ynghylch y trais a gyfeirir at staff y GIG gan gynnwys pob math o ymosodiad ar gyfer pob bwrdd iechyd lleol a phob ymddiriedolaeth iechyd? (WAQ48094)
Xxxxx Xxxxxxx: Xxx fy swyddogion wedi gofyn yn ddiweddar i’r ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru am wybodaeth am drais yn erbyn staff a byddaf yn ysgrifennu atoch pan fydd y datganiadau wedi cael eu casglu ynghyd. Nid yw byrddau iechyd lleol yn casglu’r wybodaeth hon ar hyn x xxxx.
Xxxx Xxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd y deintyddfeydd Denticare newydd yng Nghymru? (WAQ48110)
Xxxxx Xxxxxxx: Xxx Denticare, darparwr deintyddol corfforaethol, wedi ymsefydlu ar ddau safle ym Mhort Xxxxxx, Xxxx yn Abertawe a Llanfair-ym-Muallt, ac agorodd practisiau newydd yn ddiweddar yn Llanbedr Pont Steffan, Aberystwyth, Aberhonddu, y Drenewydd ac ail safle yn Llanfair-ym- Muallt. Yn ychwanegol at y practisiau newydd, ehangodd pob un o’r practisiau oedd wedi ymsefydlu o xxx y cynllun deintyddol personol peilot, gan ddiogelu a chreu nifer sylweddol o leoedd deintyddol GIG ychwanegol ar draws Cymru.
Er mis Xxxxxx xxxxx, y byrddau iechyd lleol sy’n gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau deintyddol lleol yn eu hardal, yn cynnwys datblygu a monitro’r ddarpariaeth.
Xxxxx Xxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu ysbyty newydd yn Felindre, Abertawe? (WAQ48112)
Xxxxx Xxxxxxx: Cynhaliodd BILl Abertawe ymgynghoriad cyhoeddus am y cynigion yn ‘Cynlluniwyd i’w Gyflawni’ ar gyfer gwasanaethau ysbyty aciwt yn rhanbarth canolbarth a gorllewin Cymru rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2006. Ffrwyth yr ymgynghoriad oedd cynnig y dylai gwasanaethau ysbyty aciwt yn Abertawe gael eu darparu o un safle ysbyty integredig. Cafodd hyn ei dderbyn gan y BILl a Chyngor Iechyd Cymuned Abertawe.
Mae prosiect o xxx x xxxxx ‘The Reshaping Health Services in Swansea Programme’ ar y gweill erbyn hyn. Un elfen o’r prosiect hwn fydd bwrw ymlaen i ail-lunio’r ffrwd waith gwasanaethau aciwt, yn cynnwys datblygu un ysbyty integredig.
Bydd cymuned iechyd Abertawe a’i phartneriaid yn awr yn datblygu rhaglen amlinell strategol, a fydd yn nodi’r opsiynau o ran gwasanaethau yn Abertawe i’r dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys opsiynau o ran lleoliad yr ysbyty integredig, y cytunir arnynt drwy ymgynghori. Ymysg y safleoedd posibl ar gyfer yr ysbyty hwn mae’r hen safle diwydiannol yn Felindre.
Bydd angen gwerthuso’r gwahanol opsiynau’n llwyr drwy broses buddsoddiadau cyfalaf GIG Cymru gyfan cyn y gellir nodi opsiwn sy’n cael ei ffafrio. Rhagwelir y caiff achos busnes amlinell strategol ei gyflwyno yn 2007. Bydd hwn yn edrych ymhellach ar yr opsiynau o ran lleoliad yr ysbyty integredig, yn cynnwys y posibilrwydd o ddefnyddio Felindre. Mae’n annhebygol y caiff yr opsiwn terfynol ei gadarnhau hyd nes y bydd yr achos busnes amlinell wedi cael ei ddatblygu a’i gyflwyno yn ystod ail xxxxxx 2007 xxx’n gynnar yn 2008.
Xxxxxxx Xxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am waith Comisiwn Iechyd Cymru? (WAQ48113)
Xxxxx Xxxxxxx: Xxx Comisiwn Iechyd Cymru yn gweithio gydag eraill i asesu’r angen am wasanaethau gofal iechyd arbenigol ac ariannu gwasanaethau gwerth gorau, o ansawdd uchel, ar gyfer pobl sy’n byw yng Nghymru. Mae hyn yn ategu gwaith y byrddau iechyd lleol, sy’n comisiynu gwasanaethau eilaidd a chymunedol. Bydd Comisiwn Iechyd Cymru yn parhau i gomisiynu amryw o wasanaethau er y bydd union natur ei bortffolio yn cael ei adolygu wrth i’r trefniadau comisiynu ddatblygu.
Xxxx Xxxx Xxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd canolfannau dydd ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu? (WAQ48114)
Xxxxx Xxxxxxx: Xxx ein hegwyddorion gwasanaeth a’n canllawiau ar ymateb gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu, a gyflwynwyd i’r awdurdodau lleol yn 2004, yn cynnig y dylai gwasanaethau dydd ddarparu gweithgareddau ystyrlon, gwerth chweil i bobl, sy’n adlewyrchu eu diddordebau ac yn datblygu eu xxxxx a’u sgiliau. Mater i benderfynu arno’n lleol yw sut mae pob awdurdod yn darparu a/neu yn datblygu ei wasanaethau dydd drwy ganolfannau gofal dydd neu fel arall.
Xxxx Xxxx Xxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau cymdeithasol ym Mro Xxxxxxxxx? (WAQ48115)
Xxxxx Xxxxxxx: Xxx’r cyfrifoldeb cyfreithiol am asesu anghenion, cynllunio a chomisiynu gwasanaethau cymdeithasol yn y Fro yn gorffwys gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg. Rôl Llywodraeth y Cynulliad yw gweithredu ar lefel strategol i hwyluso’r ffordd i awdurdodau lleol yng Nghymru i ddarparu gwasanaethau.
Yr wyf yn ymwybodol o bryderon arbennig yn ymwneud â’r ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol i oedolion yn y Fro. Cyfarfu’r prif arolygydd gwasanaethau cymdeithasol dros dro â phrif weithredwr a chyfarwyddwr gwasanaethau cymunedol yr awdurdod yn ddiweddar i asesu sut mae’r awdurdod yn mynd i’r afael â’r problemau, sy’n cynnwys y pwysau ar y gyllideb ar hyn x xxxx. Fe’i sicrhawyd bod yr awdurdod yn gweithio tuag at gyflawni ei rwymedigaethau statudol i ddarparu gwasanaethau priodol i unigolion i ddiwallu eu hanghenion, fel y’u haseswyd, a hynny mewn modd amserol. Mae’n ceisio gwybodaeth benodol xxxxxxx am effaith unrhyw doriadau ar wasanaethau neu staffio, neu gynnydd yn y taliadau a godir ar y rhai sy’n defnyddio gwasanaethau ar hyn o xxxx xxx ddarpar ddefnyddwyr, ac am gynlluniau’r awdurdod i fonitro’r rhain. Bydd y prif arolygydd dros dro yn rhoi gwybodaeth xxxxxxx imi.
Xxxxxxx Xxxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ad-drefnu ysbytai yn y Gogledd? (WAQ48116)
Xxxxx Xxxxxxx: Xxx’r adolygiad cyfredol o wasanaethau GIG yng Nghymru yn cael ei arwain gan y gymuned GIG leol ym mhob un o dri rhanbarth Cymru. Mae hynny i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu cynnal a’u datblygu i ddiwallu gofynion yr unfed ganrif ar hugain a bod pob parti’n rhan o’r broses. Y byrddau iechyd lleol sy’n gyfrifol am reoli’r broses yn unol â’r darpariaethau a nodwyd yn WHC (2004) 084: ‘Llunio Gwasanaethau Iechyd yn Lleol: Arweiniad ar Gynnwys Barn ac Ymgynghori ynghylch Newidiadau i Wasanaethau Iechyd’. Ar ryw adeg yn ystod y misoedd nesaf efallai y gofynnir imi ddyfarnu am ddyfodol gwasanaethau yn y tri rhanbarth ac, am y rheswm hwn, ni fyddai’n briodol imi wneud sylwadau am y cynigion cyfredol.
Ym mis Ebrill, cyhoeddwyd ‘Cynllun Gogledd Cymru’ ac yr oedd y ddogfen hon yn destun ymgynghoriad cyhoeddus rhwng hynny a diwedd mis Mehefin. I sicrhau bod y cyhoedd a’r staff yn cael cymaint â phosibl o gyfle i wneud sylwadau, cytunais i ganiatáu i flwch post yr ymgynghoriad yn y rhanbarth aros ar agor am fis ychwanegol. Erbyn hyn yr ydym wedi cyrraedd y cam hwnnw yn y broses lle mae’r bwrdd prosiect wedi gwneud argymhellion, ac mae’r rhain wedi cael eu hystyried gan y XXXxxx yn y rhanbarth mewn cyfarfod cyhoeddus. Ochr yn ochr â hyn cynhaliodd y cynghorau iechyd cymuned yn y Gogledd gyfarfodydd i ystyried yr argymhellion.
Yn dilyn y cyfarfodydd hynny, mae CICau yn y rhanbarth wedi cadarnhau eu bod un ai’n cytuno â’r cynigion neu’n eu gwrthwynebu. Os na ellir dod i gasgliad boddhaol drwy gyflafareddu lleol bydd gennyf fi rôl fel y cyflafareddwr terfynol a gofynnir imi benderfynu’n ffurfiol ar argymhellion y Gogledd. Fel yr wyf wedi egluro, ar y sail honno byddai’n amhriodol imi gynnig sylwadau ar yr argymhellion cyfredol ar hyn x xxxx.
Xxxxxxx Xxxxxx: A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut yr hyrwyddir sgrinio ar gyfer canser y fron i fenywod dros 70 oed yng Nghymru? (WAQ48117)
Xxxxx Xxxxxxx: Xxx Xxxx Brawf Cymru, ynghyd â sefydliadau eraill ac elusennau, yn ceisio codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd sgrinio i fenywod dros 70. Yr ydym yn ceisio eu hannog i ofyn os ydynt yn dymuno cael eu sgrinio.
Xxx Xxxx Brawf Cymru wedi datblygu taflen yn benodol i fenywod dros 70 oed. Mae ar gael ym mhractisiau meddygon teulu, mudiadau cymunedol ac ar ein gwefan.
Pan fydd menywod 68 i 70 oed yn dod i’w hapwyntiadau sgrinio’r fron rhoddir cerdyn iddynt sy’n dweud wrthynt y xxxxxxx barhau i ddod i gael sgrinio’r fron ond y bydd yn rhaid iddynt ffonio neu ysgrifennu i ofyn am apwyntiad ymhen tair blynedd.
Mae swyddogion hyrwyddo sgrinio o Bron Brawf Cymru yn darparu posteri a thaflenni i siopau lleol, fferyllfeydd a llyfrgelloedd ac yn rhoi sgyrsiau i bractisiau meddygon teulu, grwpiau cymunedol, mudiadau menywod, Age Concern, grwpiau gofalwyr a mudiadau eraill sy’n gweithio gyda menywod hyn. Mae’r sgyrsiau hyn yn gyfle i egluro sut y gall menywod dros 70 oed barhau i gael sgrinio’r fron os ydynt yn dymuno.
Xxxx Xxxxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cynorthwyo pobl hyn i gadw’n gynnes y gaeaf hwn? (WAQ48118)
Xxxxx Xxxxxxx: Am y seithfed flynedd, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cefnogi ymgyrch Gofal Piau Hi y Gaeaf Hwn, sy’n anelu at ddarparu gwybodaeth a chymorth i bobl 65 oed a throsodd i’w galluogi i gadw’n iach y gaeaf hwn. Lansiwyd yr ymgyrch gan Xxxx Xxxxxxxxx AC ar 18 Medi ar Ynys Môn.
Mae’r ymgyrch yn rhedeg o fis Medi tan fis Chwefror, ac mae’n tynnu nifer o gynlluniau gan y gwasanaethau iechyd, y sector gwirfoddol, Llywodraeth Cynulliad Cymru ac eraill ynghyd yn un rhaglen. Ymateb gan y llywodraeth, cyrff ac unigolion i Her Iechyd Cymru yw Gofal Piau Hi y Gaeaf Hwn.
Un neges allweddol yn ymgyrch Gofal Piau Hi y Gaeaf Hwn yw perswadio pobl hyn i fanteisio ar frechiadau am ddim rhag y ffliw, gan mai hwn yw un o’r camau mwyaf effeithiol y xxxxxxx eu cymryd i amddiffyn eu hiechyd dros fisoedd y gaeaf.
O ran y gaeaf sydd ar ein gwarthaf, mae prisiau tanwydd uchel wedi cynyddu’r risg o dlodi tanwydd ymysg pobl hyn. Ar gyfer gaeaf 2006-2007, bydd Gofal Piau Hi y Gaeaf Hwn yn canolbwyntio ar ffyrdd i bobl hyn leihau effeithiau’r codiadau ym mhrisiau tanwydd xx xxxx yn gynnes.
Xxxx Xxxxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut mae’n moderneiddio gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru? (WAQ48119)
Xxxxx Xxxxxxx: Yr wyf wedi nodi fy nghynigion o ran dyfodol y gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn y papur ymgynghorol ‘Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol - Strategaeth ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru dros y Degawd Nesaf’. Anfonwyd y papur ymgynghorol at xxxx Aelodau’r Cynulliad. Mae sesiwn briffio technegol gan fy swyddogion wedi cael ei drefnu ar gyfer dydd Mawrth 24 Hydref.
Xxxxx Xxxxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym xxxx yw agenda Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru? (WAQ48120)
Xxxxx Xxxxxxx: Yr wyf wedi nodi fy nghynigion o ran dyfodol y gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn y papur ymgynghorol ‘Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol - Strategaeth ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru dros y Degawd Nesaf’. Anfonwyd y papur ymgynghorol at xxxx Aelodau’r Cynulliad. Mae sesiwn briffio technegol gan fy swyddogion wedi cael ei drefnu ar gyfer dydd Mawrth 24 Hydref.
Xxxxx Xxxx Xxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n helpu ymddiriedolaethau GIG i unioni eu diffyg ariannol? (WAQ48121)
Xxxxx Xxxxxxx: Gwneuthum ddatganiad i’r Cyfarfod Llawn ar 27 Medi 2006, yn manylu ar y mesurau yr ymgymerwyd â hwy i leihau’r diffygion yn y GIG yng Nghymru.
Mae perfformiad ariannol cyrff GIG yn cael ei fonitro’n rheolaidd gydol y flwyddyn drwy’r
swyddfeydd rhanbarthol. Yn y lle cyntaf, bydd y swyddfa ranbarthol yn gweithio gydag unrhyw sefydliad sy’n dweud ei fod yn cael anawsterau i sicrhau bod camau’n cael eu cymryd i gywiro’r broblem
Os canfyddir, ar ôl y gwaith hwn, fod sefydliad yn wynebu problemau na all eu goresgyn yn ystod y flwyddyn a/neu fod ganddo broblemau gwaelodol sy’n effeithio ar y gallu i gyrraedd y targed statudol o fantoli’r gyllideb, rhaid i’r sefydliad gynhyrchu cynllun newid strategol ac effeithlonrwydd neu, lle cytunwyd eisoes ar gynllun o’r fath, rhaid iddo gynhyrchu cynllun newid strategol ac effeithlonrwydd diwygiedig, yn unol â WHC (2004) 34.
Gall y swyddogion alw am adolygiad annibynnol o reolaeth ariannol sefydliad er mwyn helpu i gynhyrchu cynllun newid strategol ac effeithlonrwydd cryf, fel sydd wedi digwydd yng nghymuned iechyd Gwent.
Y swyddog cyfrifo unigol sy’n dal i fod yn gyfrifol, fodd bynnag, am sicrhau bod y gyllideb yn cael ei mantoli ac i gytuno ar unrhyw gynlluniau xxxxx lle bo rhaid. Mae pwerau xxxx iawn eu cwmpas yn bodoli o xxx Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 ac o xxx y trefniadau swyddog atebol i sicrhau bod sefydliadau yn cyrraedd y targedau perfformiad (yn cynnwys perfformiad ariannol).
Xxxxx Xxxx Xxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth gwasanaethau ambiwlans yn Nwyrain De Cymru? (WAQ48122)
Xxxxx Xxxxxxx: Xxx Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cwblhau ei chynllun moderneiddio ar ei wedd derfynol ar hyn x xxxx. Bydd y cynllun yn edrych ar y ddarpariaeth gwasanaethau ambiwlans ar draws Cymru gyfan. Mae staff a rheolwyr yr ymddiriedolaeth wedi addunedu i weithio gyda’i gilydd i roi’r cynllun ar waith ar draws Cymru. Mae’r cynllun adleoli ar gyfer y De-ddwyrain yn helpu i sicrhau bod yr adnoddau’n ateb y galw yn y rhanbarth. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru hwb o £16 miliwn o gyllid cyfalaf i gael cerbydau argyfwng newydd yn lle’r rhai presennol. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i brynu 119 o ambiwlansys argyfwng newydd a 67 o gerbydau gwasanaethau gofalu am gleifion yn ystod 2006-07.
Xxxxx Xxxxxxxx: Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda’r GIG ynghylch codi tâl mewn meysydd parcio ysbytai yng Nghymru? (WAQ48123)
Xxxxx Xxxxxxx: Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau gyda’r GIG am xxxx xxx mewn meysydd parcio ysbytai yng Nghymru. Cyfrifoldeb yr ymddiriedolaethau GIG unigol yw cyfleusterau parcio a chodi tâl ar safleoedd ysbytai yng Nghymru ac o’r herwydd mae gwahanol drefniadau yn bodoli ar draws safleoedd gwahanol ymddiriedolaethau.
Xxxx Xxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiffyg ariannol y GIG yn y Canolbarth? (WAQ48124)
Xxxxx Xxxxxxx: Xxx sefyllfa ariannol y XXXxxx a’r ymddiriedolaethau am 2005-06 wedi ei nodi yn y cyfrifon cryno. Atgynhyrchwyd detholiadau o gyfrifon cryno’r Canolbarth a’r Gorllewin isod, a chyfeiriwyd atynt hefyd yn fy natganiad i’r Cyfarfod Llawn ar 27 Medi 2006.
Cytunwyd ar gynlluniau newid strategol ac effeithlonrwydd gydag un sefydliad yn y rhanbarth yn 06- 07, sydd â chyfanswm diffyg wedi’i gynllunio o £3.4 miliwn. Mae’r diffygion sy’n cael eu darogan mewn sefydliadau eraill yn dal i gael eu hadolygu gan y swyddogion ac mae’n rhy gynnar ar hyn x xxxx i roi datganiad clir am sefyllfa debygol 2006-07.
Perfformiad y byrddau iechyd lleol o’i gymharu â’r terfynau adnoddau a ddyrannwyd
Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru | Tanwariant /(gorwariant) yn erbyn yr adnoddau | |
2005-06 | 2004-05 | |
£000 | £000 | |
Bwrdd Iechyd Lleol Pen-y-bont ar Ogwr | 4 | - |
Bwrdd Iechyd Lleol Sir Gaerfyrddin | 19 | 8 |
Bwrdd Iechyd Lleol Ceredigion | (598) | 75 |
Bwrdd Iechyd Lleol Xxxxxxx-xxxx Port Xxxxxx | 20 | 23 |
Bwrdd Iechyd Lleol Sir Benfro | 29 | 13 |
Bwrdd Iechyd Lleol Powys | - | (22) |
Bwrdd Iechyd Lleol Abertawe | (4,580) | 192 |
Gwargedau a Diffygion Ymddiriedolaethau GIG Cymru
Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru | Gwarged/(Diffyg) | |
2005-06 | 2004-05 | |
£000 | £000 | |
Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg | 58 | 53 |
Ymddiriedolaeth GIG Sir Gaerfyrddin | (4,624) | (4,471) |
Ymddiriedolaeth GIG Ceredigion a Chanolbarth Cymru | (341) | (516) |
Ymddiriedolaeth GIG Xxx Xxxxxx a Derwen | (2,492) | (2,290) |
Ymddiriedolaeth GIG Abertawe | (2,208) | 7 |
Cyfanswm (Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru) | (9,607) | (7,217) |
Xxx Xxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru? (WAQ48125)
Xxxxx Xxxxxxx: Dywed y strategaeth ymgynghori ddrafft ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru dros y degawd nesaf, ‘Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol’ (paragraff 4.17):
‘Byddwn yn adolygu ein gweithdrefnau arolygu a rheoleiddio xx xxxx gofal cymdeithasol er mwyn sicrhau eu bod yn cefnogi amcanion y strategaeth hon. Byddwn yn nodi ein bwriadau yn ddiweddarach yn y flwyddyn ac adlewyrchir y rhain yn fersiwn terfynol y ddogfen hon.’
Mae’r adolygiad hwn yn cynnwys ystyried uno Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ac Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru.
Xxxxxx Xxxx Xxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau comisiynu yn BOBATH? (WAQ48147)
Xxxxx Xxxxxxx: Y bwrdd iechyd lleol sy’n gyfrifol am ddarparu pob gwasanaeth iechyd. Rhaid iddo asesu anghenion yr ardal leol a, chan weithio gydag ymddiriedolaethau GIG, grwpiau iechyd lleol, y sector gwirfoddol ac eraill, rhaid iddo gynllunio a blaenoriaethu ei wasanaeth iechyd fel ei fod yn diwallu’r angen hwnnw o fewn yr adnoddau sydd ar gael.
Rhodri Xxxx Xxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei ymweliad diweddaraf â Chanolfan BOBATH, a pha gynlluniau sydd ganddo i ymweld â’r ganolfan yn y dyfodol? (WAQ48148)
Xxxxx Xxxxxxx: Nid wyf wedi ymweld â Chanolfan Bobath hyd yma.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio
Xxxxx Xxxxxxxx: A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r cyllid a neilltuwyd i’r heddlu ar lefel Cymru gyfan ac ar lefel ranbarthol drwy gyfrwng portffolio Cyfiawnder Cymdeithasol y Cynulliad? (WAQ48093)
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio (Xxxxxx Xxxx): Xxx Xxxxxxxxxxx Cynulliad Cymru wedi dyrannu’r cyllid canlynol i’r heddlu yng Nghymru o’r portffolio cyfiawnder cymdeithasol ac adfywio:
Prosiect | 2003-04 | 2004-05 | 2005-06 | 2006-07 |
Ymgyrch Tarian (yn cwmpasu Heddluoedd Gwent, De Cymru a Dyfed-Powys) | £1,276,020 | £636,589 | £641,835 | £642,000 |
Rhaglen camddefnyddio sylweddau/ addysg bersonol a chymdeithasol i ysgolion (a gyflwynir ar draws Cymru gyfan) a gyllidir drwy Heddlu Gwent | £650,000 | £1,300,000 | £1,300,000 | £1,641,600 |
Cyllid Cymunedau yn Gyntaf (Heddlu Gogledd Cymru) | £92,500 | £92,500 | £92,500 | £95,275 |
Cyfansymiau | £2,018,520 | £2,029,089 | £2,034,335 | £2,378,875 |
Cyfanswm Llawn | £8,460,819 |
Yn ogystal, xxx xxxx i £21 miliwn y flwyddyn o’r gronfa weithredu ar gamddefnyddio sylweddau, y gronfa cymunedau diogelach a’r gronfa trais yn y cartref ar gael i bartneriaethau diogelwch cymunedol yng Nghymru: mae’r heddlu yn xxxxxxx statudol mewn partneriaethau diogelwch cymunedol ac maent felly yn elwa o’r cyllid hwn.