Gyllideb Clausole campione

Gyllideb. Mae’r Gyllideb yn cynnwys dyrannu adnoddau ariannol i wahanol wasanaethau a phrosiectau, cronfeydd wrth gefn arfaethedig, sylfaen y dreth gyngor, pennu’r dreth gyngor a phenderfyniadau sy’n ymwneud â rheoli gofyniad benthyca’r Cyngor, rheoli ei wariant cyfalaf a phennu terfynau trosglwyddiadau ariannol. Bydd y Cyngor Llawn yn penderfynu ar gyllideb refeniw gyffredinol a chyllideb gyfalaf gyffredinol y Cyngor ac unrhyw newidiadau i’r rhain. (Gweler Adran 16 am sut y gall y Cyngor newid y Fframwaith Polisi neu’r Gyllideb a gyfeiriwyd ato i’w cymeradwyo gan y Cabinet.)
Gyllideb. ▇▇▇ ▇▇▇ y Cyngor weithdrefnau rheoli ariannol sefydledig a chadarn ar gyfer monitro cyllidebau a lliniaru ar unrhyw orwariant a ragwelir. Bu’r gweithdrefnau hyn yn dra llwyddiannus wrth roi rhybudd cynnar bod perygl o beidio â chyflawni unrhyw arbedion a gymeradwywyd yn y gyllideb, ac adnabod unrhyw risgiau a gwasgfeydd ar wasanaethau sy’n datblygu. Darperir gwybodaeth ynglŷn â’r gyllideb refeniw, ynghyd â’r cynnydd wrth gyflawni’r arbedion arfaethedig, ▇▇▇ deufis i’r Aelodau. Caiff gwybodaeth am y gyllideb refeniw a rheoli’r risgiau a ddynodwyd wrth bennu’r gyllideb ei hadrodd i’r Cyngor ymhen chwe mis o’r flwyddyn. Mae’r Bwrdd Gweithredol hefyd yn ystyried y sefyllfa refeniw derfynol ac yn cymeradwyo’r trefniadau ar gyfer dwyn cronfeydd a balansau ymlaen. Mae’r broses hon yn golygu bod yno herio effeithiol, gan gynnwys adolygu unrhyw effeithiau posibl ar berfformiad gwasanaethau.